HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crug Mawr 12 Rhagfyr



Dyma griw da o 21 aelod yn ymgynnyll yn maes parcio Crughywel wedi teithio o bedwar ban Cymru i gerdded yn nghysgod y Mynyddoedd Duon.

Gan rannu ceir, dyma deithio i gyfeiriad y Dwyrain am ryw ddwy filltir i bentref bach Llangennau. Wedi croesi pont fach, dyma ddilyn yr afon Grwyne Fawr a chroesi pontydd bychain o bryd yw gilydd. Gyda lwc, roedd y glaw trwm wedi cilio a daeth awyr las i’r golwg wrth i ni gyrraedd y tir agored. Gan esgyn yn raddol i fyny trwy ambell gae roedd Crug Hywel (hen Fryn Gaer) i’w weld yn glir wrth edrych i’r Gorllewin. Gyda’r tywydd yn clirio roedd copaon Pen y fal a Phen Cerrig Calch yn ymddangos yn y pellter.

Cyn hir dyma gyrraedd ffordd y Bannau a gan godi i uchder o 550 m dyma gyrraedd copa gwyntog Crug Fawr. Cario ymlaen wedyn gan ddisgyn yn raddol a chyrraedd lloc defaid.

Roedd y tir yn llithrig dan ein traed a gofal oedd angen. Yn anffodus mi gollodd John Rowlands afael ar bethau a gyda ambell birouette osgeiddig dyma fe ar ei hyd fewn i’r rhedyn. Symudiadau y byddai ddim o’i le yn ffeinal Strictly Come Dancing!

Cyn hir daethom at Eglwys Patricio Sant Issui’s yn Partrishow. Dyma eglwys hynafol bendigedig o’r 14 ed ganrif. Mae’r eglwys yn adnabyddus am y groglofft o’r 15ed ganrif, allorau cerrig a lluniau ar y waliau. Eglwys werth ei gweld.

Wedi aros yno am ginio a sgwrs dyma droi tua’r De, lawr ar heol gul tuag at Craig y bwla. Penderfynodd rhai gymeryd llwybr gymharol fwdlyd nôl tuag at bentref Llangennau ac eraill yn cadw yn gall ar yr heol! Taith o thua 12 milltir i gyd.

Erbyn cyrraedd Crughywel, roedd hi’n amser ymlacio a chael cinio yn Ngwesty’r Bear. Diolch yn fawr i gwmni pawb ac yn enwedig i Richard Mitchley am arwain a threfnu y daith.

Adroddiad gan Dewi.

Lluniau o'r daith a'r cinio yn Y Bear gan Dewi a Gerallt ar FLICKR