HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Llanberis 13 Chwefror


Llawer o ddiolch i Dafydd am ein tywys ar hyd llwybrau chwareli Llanberis, a’i straeon difyr. Ar y daith roedd Mags, Winnie, Nia, Llŷr a Gwen Richards o Sir Fôn, Meic, Rheinallt, Salmon, Haf ac Ellis o Feirionnydd, Mair Eleri, John P, John Arthur, Alun o Gaernarfon, Gwenan a Gwil, Gwyn Chwilog, Gwynfor ac Anet o Ben Llŷn/Eifionydd, Arwel, Gareth Tilsley, Eirwen, Sioned, a Delyth.

Taith i Nunlle
Bron i ddeg ar hugain o gerddwyr wedi mentro i Lanberis ganol Chwefror, a hithau’n addo tywydd tipyn cynhesach. Cerdded drwy Goed Doctor nes cyrraedd Lôn Clegir a dechrau dringo. Aros ger Tŷ Du, sy’n prysur adfeilio, a chlywed am y cysylltiadau â Thlodion Rhuthun, Ffowc y dyn cryf a’r brodyr Dewi Arfon a Gutyn Arfon. Cyrraedd Beudy’r Geifr a phendroni pam fod ci yn gyndyn o fynd i mewn iddo!

Troi oddi ar y lôn ar lwybr cyhoeddus – nad oes fawr o ddefnydd arno – a dechrau dringo go iawn. I fyny heibio’i domennydd sbwriel llechi a thyllau chwarel rhyfeddol o ddwfn a serth; amryw wedi eu hamgylchu â ffens oherwydd y peryglon, ond yn gwneud gwarchodfeydd natur anhygoel. Mân chwareli llechi ar dir oedd yn bennaf ym meddiant Stad Glynllifon, ond yn cael eu gweithio gan amryw unigolion yn talu rhent am y fraint o gloddio a chanran o’r elw ar bob tunnell o lechi. Chwareli Cae’r Meinciau a Thy’n y Mynydd ar y chwith a rhai Glynrhonwy ar y dde. Dal i ddringo tir agored a gwlyb mewn mannau nes cyrraedd olion yr hen farics ym Mhen Gwaith a Bwlch y Groes, a bu’n rheidrwydd stopio am baned.

Trwy giât Bwlch y Groes – a chyrraedd Nunlle. Enw ar ddarn o dir oedd yn ôl pob sôn wedi ‘anghofio’ ei gynnwys yn unrhyw un o’r tri phlwyf oedd yn ffinio â’i gilydd yma ers talwm: Llanberis, Llanrug a Llanbeblig. Do, cafodd pawb y fraint o ddweud iddynt gerdded a dringo am ddwyawr a chyrraedd Nunlle!

Cinio, a chysgod rhag y gwynt (mileinig braidd) mewn adfeilion yn perthyn i hen chwarel Cefn Du. Ymlaen i gopa Cefn Du, heb anghofio ymweld â chamfa arbennig sy’n arwain i lwybr sydd wedi hen ddiflannu dan drwch o rug. Cyrraedd y copa ac aros am ychydig i gael hanes Gorsaf Radio Marconi a sefydlwyd ar lethrau’r mynydd rai blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mwynhau’r golygfeydd i’r gogledd a dros Ynys Môn.

Disgyn ar lwybr gwahanol a heibio’r Chwarel Fawr sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer cynhyrchu trydan, gan ddefnyddio’r un system â Gorsaf Bŵer Dinorwig. Croesi Nunlle unwaith eto a dilyn yr hen ffordd o Fwlch y Groes i lawr y llethrau am Lanberis. Gweld olion y tirlithriad a fu’n achos y llifogydd difrifol yn y pentref chwe mlynedd yn ôl, a phasio’r cynllun trydan cymunedol (Ynni Padarn-Peris) a sefydlwyd gyda buddsoddiadau unigolion lleol rai blynyddoedd yn ôl.

Cyrraedd y pentref a mwynhau paned (arall) cyn gwasgaru a pharatoi am y daith nesaf mewn mis.

Adroddiad gan Dafydd Whiteside Thomas

Lluniau gan Dafydd, Gareth Tilsley a Meic Ellis ar FLICKR