HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arthog 13 Mawrth



Teithiodd dau ar hugain ohonom ar y trên i orsaf Llwyngwril ac yn ein disgwyl yno roedd tywydd cymylog, sych a drodd yn heulog tua diwedd y daith. Ond roedd tipyn o wynt – yn ein cefnau yn ffodus, ar y ffordd i fyny. Roedd y darn cyntaf o’r daith yn dilyn Llwybr yr Arfordir am tua thair milltir o Lwyngwril ar hyd hen ffordd sydd yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd yn ôl pob sôn. Cyn dyfodiad y ffordd dyrpeg newydd sydd yn dilyn yr arfordir, hon oedd y brif ffordd i’r Friog, Arthog a Dolgellau.

Cyn gadael ffiniau’r pentref cyfeiriwyd at Llwyn Du, man cyfarfod y Crynwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg, at fynwent y Crynwyr yn y pentref ac hefyd at yr Hendre nepell o Lwyn Du oedd yn gyrchfan ar un adeg i John Bright - y John Bright AS a anfarwolwyd yn enw ysgol eilradd Llandudno! Gobeithia’r gŵr hwn gael priodi Gwen Morgan, merch yr Hendre ond ni chafodd ganiatâd y rhieni.  O ganlyniad bu farw’r ferch yn ei siomedigaeth. Enwogion Llwyngwril? Gwyndaf a Dafydd o ‘Ar Lôg’ wrth gwrs a daeth piffiad o chwerthin pan glywodd y criw fod mam Delia Smith, un Miss Pugh cyn priodi, yn enedigol o Lwyngwril. Lle byddai Norwich City heddiw tybed pe na byddai Miss Pugh wedi gadael Llwyngwril?!

Wedi i ni adael Llwyngwril ar hyd ffordd a waliau cerrig yn ffiniau iddi ar bob ochr, daethpwyd at res o Feini Hirion. Bu trafod eu pwrpas ond nid oes ateb er bod sawl damcaniaeth. Mae’r ardal yn frith o hen olion o’r oesoedd cynnar a thebyg mai ardal claddu a defodau seremonïol oedd hi yn bennaf yn y cyfnod hwnnw yn hytrach na phentrefi, er bod cytiau Gwyddelod i’w gweld yma ac acw.

Wedi cyrraedd y pwynt uchaf ar y daith cawsom olygfa braf o’r bont ac aber yr afon Fawddach – Fairbourne a’r Friog yr ochr yma a’r Bermo yr ochr draw. Y Friog a Fairbourne yn ddau bentref ar wahân wrth gwrs, un dipyn yn hŷn na’r llall. Bu rheilffordd fechan yn rhedeg o’r Friog i ben draw’r pwynt ers sawl canrif yn ôl, yn wreiddiol i gario llechi a mwynau o chwareli oedd ar y llethrau oddi tanom uwchben Arthog. Y fferi fyddai wedyn yn cario’r cynnyrch i harbwr Bermo i’w lwytho ar longau i’w gario i ffwrdd. Heddiw, cario ymwelwyr o Fairbourne i’r Bermo y mae’r trên bach a’r fferi yn ystod misoedd yr haf. Wedi dyfodiad y rheilffordd ym 1867, oedd yn mynd dros y bont newydd i’r Bermo, newidiwyd y drefn. Âi’r llechi a’r mwynau wedyn at orsaf y trên ym Morfa Mawddach i’w cario un ai ar y rheilffordd i ben eu taith ym Mhrydain neu i’w hallforio o harbwr Bermo.
 
Mae’r bont yn dal yn bwysig yng Ngwynedd i sicrhau fod trenau yn dal i wasanaethu’r ardal i’r gogledd. Mae llwybr troed hefyd dros y bont. Yn ei phen draw mae dau fwa o waith haearn yn ganllawiau iddi. Dyma lle’r oedd yn arfer agor i ganiatáu i longau tal fynd drwodd.

Arhoswyd i gael tamed i’w fwyta yng nghysgod coed pîn ger Cyfannedd, lle bu chwaer Hedd Wyn yn byw ar ôl priodi gŵr y tŷ. Ychydig lathenni ymhellach daethom i olwg y Ffordd Ddu, y ffordd oedd yn cysylltu dyffryn Dysynni a dyffryn Mawddach yn yr hen amser. Mae hanes yn dweud bod y Goets Fawr yn teithio ar hyd hon a thebyg y byddai’n dipyn o dreth ar y ceffylau a’r gyrrwr! Ond tua chanol y ganrif ddiwethaf, roedd yn dal yn bosib gyrru car drosti er mai ffordd raean oedd hi. Roedd llun car (Morus Meinor, FFF 64 - gweler y casgliad ar Flickr) yn mynd trwy’r llidiart olaf ar y daith yn y 50au yn profi hyn!

Cyn hir gadawyd y ffordd a throi i’r llwybr oedd yn arwain i lawr trwy Geunant Arthog. Yma hefyd yr oedd llwybr arall yn arwain i gyfeiriad Llynnoedd Cregennan a Thy’n Llidiart, tŷ haf tad yng nghyfraith Gwynfor Evans. O ganlyniad i’r glaw trwm a ddisgynnodd dros y deuddydd cynt, roedd y rhaeadrau yn hynod ffotogenig, rhaeadrau sy’n parhau am gryn filltir i lawr i waelod y ceunant wrth y ffordd fawr rhwng Arthog a Dolgellau. Croeswyd y ffordd i ymuno â llwybr yr hen reilffordd a chyrraedd gorsaf Morfa Mawddach rhyw ugain munud cyn amser y trên. Ar y platfform, cafwyd seibiant i fwynhau paned a chacen cyn i bawb wasgaru, un ai efo’r trên i’r gogledd neu yn eu ceir i bob cyfeiriad.

Pwy oeddem i gyd? Llŷr a Nia Wyn yn tywys ynghyd â Margaret, Meic, Winnie, Eryl, Buddug, Gwyn, Gwynfor, Anet, Gwenan, Rheinallt, Haf, Mary, Ellis, Emyr, Arwel, Salmon, Emrys a’r tri John, John Parry, John Arthur a John Williams.

Adroddiad gan Llŷr Gruffydd

Lluniau gan Llyr Gruffydd, Gwenan, Meic a Margaret ar FLICKR