HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tor y Foel 13 Ebrill


Dyma naw ohonom ( Helen,Rhian,Eileen,Sian,John,Hywel,Alun,Pete a Dewi) yn ymgasglu ym maes parcio Llangynidr (SO 155 196) ar fore oer a heulog.

Gan grwydro fyny drwy’r pentref dyma gyrraedd stilil fach oedd yn arwain fyny drwy’r caeau fyny dyffryn Crawnon, heibio i fferm y Cwrt gan gyrraedd y tir agored a ochr ogleddol mynydd Llangynidr.

Wedi crwydro am thua awr a hanner roedd yn amser paned.Wrth anelu at adfail hen fwthyn dyma ni’n cael cip olwg ar ysgyfarnog yn dianc o’r adeilad. Prin ydi ei gweld y dyddiau yma. Wedi hoi, dyma ni lawr ar ein pen i waelod y cwm, croesi heol fach a dilyn afon Crawnon am ychydig. Yn ôl Sian mae Crawnon yn hen air am “wild thyme”.

Dyma ddilyn llwybr i fyny trwy’r caeau unwaith yn rhagor cyn cyrraedd tir agored unwaith yn rhagor. Wedi rhyw gerdded ychydig dyma ddod i lecyn bendigedig yn edrych dros cronfa ddŵr Talybont. Yn y fan hyn mae llwybr Ffordd y Bannau yn croesi y dyffryn.

Wedi cinio, dyma ddringo i gopa Tor y Foel (551 m). Roedd yr ymdrech wir werth chweil gan olygfeydd bendigedig o’r Bannau i bob cyfeiriad.

Lawr a ni yn serth i heol fach cyn troi am lwybr cerdded Cwm Wysg.

Roedd yr afon Wysg i’w gweld yn glir ac yn cyd redeg a chamlas Aberhonddu i Gasnewydd. Gan ddilyn y llwybr wrth ochr y gamlas am thua dwy filltir dyma gyrraedd pont i’w chroesi. Gan ei bod hi yn amser gwyliau roedd tipyn o fynd a dod ar y gamlas a sawl clo neu ‘lock’ i’w gweld.

Wedi crwydro fyny trwy’r pentref dyma gyrraedd y maes parcio unwaith eto.

Taith o thua deg milltir. Diwrnod bendigedig mewn cwmni difyr.

Adroddiad gan Dewi

Lluniau gan Dewi ar FLICKR