HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Idwal 14 Medi


Ar fore bendigedig o braf, daeth 22 ohonom ynghyd wrth Lyn Ogwen i wneud y daith ddifyr hon. Cawsom gwmni tîm yn ffilmio pwt ar gyfer rhaglen “Newyddion 9” ar droed Tryfan, ond mi wrthodon nhw’r gwahoddiad i ffilmio mynydda go iawn yn uwch i fyny!

Dringwyd i fyny talcen gogleddol Tryfan, gyda’r mwyafrif yn crafangu i fyny’r trwyn a’r talcen, tra bod rhai’n dal i’r chwith yn uchel uwchben y Llwybr Gwregys i ddod rhwng Adda ac Efa drwy’r drws cefn. Roedd y copa fel arosfan traffordd wrth inni aros am baned haeddiannol!

Ar ôl llwybro i lawr i Fwlch Tryfan yn llygad yr haul, holltwyd yn ddau grŵp eto – rhai’n dilyn penelin Llyn Caseg Fraith, a’r lleill yn dringo’r Grib Ddanheddog (neu’r Grib Filain yn ôl rhai), gan gwrdd wrth y garreg lam wrth y Glyder Fach. Ar ôl tynnu’r llun angenrheidiol yno (uchod !), ymlaen â ni i herio rhagfur Castell y Gwynt cyn anelu am y Glyder Fawr. Tybed sawl un o’r degau o geir a welem ym mhell o danom, ar fin y ffordd wrth Ben y Gwrhyd, a gafodd docyn parcio?!

Cododd gwynt yr haul at y pnawn, ac roeddem yn falch o’r cysgod wrth ddisgyn at Lyn y Cŵn, ond daethom i’w ddannedd eto wrth dynnu at gopa’r Garn. Ar ddiwrnod clir, roedd yr olygfa oddi yno i bob cyfeiriad yn rhyfeddol.

Gyda’r coesau’n trymhau, cyrhaeddwyd yn ôl i lawr yn Ogwen mewn da bryd i gael paned a sgwrs ymlaciol ar y wal. Diolch am ddiwrnod mor braf inni wneud y daith bedol heriol hon. A diolch am gwmnïaeth ddifyr a heini nifer o aelodau newydd yn ogystal â’r hen eifr!

Adroddiad gan Rhys Dafis

Lluniau gan Rhys, Sonia a Morfudd ar FLICKR