Carreg Cennen 14 Medi
Daeth 15 ohonom gan gynnwys aelodau newydd ieuanc ar fore heulog i ymgynull wrth droed Castell Carreg Cennen ar gyfer taith gylchog o ryw 11 milltir. Efallai mai dyma ‘r mwyaf dramatig o holl gestyll Cymru, a sy’n sefyll rhyw 90 m uwch yr afon Cennen ar glogwyni calchfaen. O’r castell gwelir i’r de-ddwyrain Tair Carn Uchaf sef claddfeydd enfawr o’r Oes Efydd a hefyd, ymhellach i’r dwyrain, gweler ysgarpiau neu darrennau serth Bannau Sir Gâr.
‘Roedd y daith yn un amrywiol iawn o boptu dyffryn afon Cennen gan arwain i fyny i’r Mynydd Du diarffordd cyn croesi dros y dyffryn draw at borfeydd brâs a choedlannoedd Ystrad Tywi. Fel ym mhob man arall o Gymru mae’r enwau lleoedd yn gyforiog o hanes a nodweddion y tirlun, a chyn bo hir cyrhaeddwyd Llygad Llwchwr sef y man lle ymddengys yr afon hon ar ôl iddi darddu’n danddaearol rai milltiroedd o fewn y ddaear.
Pasiwyd amryw furddunau cyn codi at y mynydd gyda’i briodoleddau o lyncdyllau a chreigiau gwasgaredig o’r grit basalt a’r calchfaen. ‘Roeddem ar ymylon Parc Cenedlaethol – yn dir pori a gweundiroedd lle mae’r defaid yn pori. Pasiwyd ger gweddillion Cwrt Bryn y Beirdd sef plasdy hynafol a oedd yn ôl y sôn yn goleg beirdd a fyddai’n gysylltiedig â’r castell. Cyn hir daethom at le rhyfedd a enwi’r “Beddau’r Derwyddon” sydd naill a’i yn feddau o’r Oes Efydd neu yn dyddio o’r canol oesoedd ac wedi bod yn fodd i ffermio cwningod a chael cig ffres yn y gaeaf!
Ymlaen wedyn at loc anifeilaid neu gorlannau enfawr hynafol i gael tamaid gan gadw llygad barcud rhag y Twrch Trwyth. Yn yr ardal yma mae llawer o olion yr hen ddiwydiant gwneud calch gydag amryw o olion odynnau. Ffermio a chloddio am galchfaen fu yma ochr wrth ochr o’r canoloesoedd tan flynyddoedd cynnar yr ugeifed ganrif.
Wedi croesi’r dyffryn aethpwyd ymlaen drwy dirwedd amrywiol o dir pori a choedlannau derw hynafol gan orffen y daith drwy ddringo i fynny at y castell.
Adroddiad gan Meirion
Lluniau gan Dewi ar FLICKR