Bryniau Clwyd 16 Chwefror
Daeth deg i gyfarfod yn y gilfan ger cartref y cogydd Bryn Williams yn Llangwyfan sef Gwyn, Dilys a’u gyrrwr John Arthur, Marion, Robat a Steve o Rhuthun, Raymond ,Gordon a’r ddau Hywel.
Bu didoli i dri char, y criw Fformiwla 1 o Rhuthun yn rhuthro ar y blaen i fyny’r ffordd anghywir nes cael eu hachub gan Raymond! Wedi cyrraedd y maes parcio i’r de o Moel Arthur aethom dros gamfa i lawr gan ddilyn llechwedd gorllewinol Moel Arthur heibio Fron Dyffryn at London Bridge sydd ddim llawer o bont ac yn bell o Lundain! Roedd y llwybr yn dringo’n raddol drwy’r coed ac yna ar hyd y Silff uwchben hen ysbyty tuberculosis Llangwyfan gyda golygfeydd helaeth yn agor allan dros ddyffryn Clwyd tuag at Morfa Rhuddlan a’r môr.
Roedd Marion a Dilys ar flaen y gad tan i ni aros i gael paned a thamaid allan o’r gwynt ar y Bwlch rhwng Moel y Parc a Phen y Cloddiau. Erbyn hyn roedd yr haul yn ymddangos, yn gynnes allan o’r gwynt a chaddug llwyd dros Eryri! I lawr yn serth heibio fferm cyn-bencampwr cwn defaid Glyn Jones ac ymlaen i’r Aifft, Bodfari oddi tanom a chadeirlan Llanelwy’n disgleirio yn yr haul.
Cwyn y Llywydd oedd bod y ddau Hywel yn gyfrwys a bod mwy o ostwng nac o esgyn hyd at yma! Felly i fyny a ni 250 m i gopa Moel Y Parc! Yr awyr yn hollol glir cafwyd golygfa wych dros y môr a’r afon Ddyfrdwy ac adeiladau Lerpwl yn amlwg yn yr haul ar y dde, dyffryn Clwyd ar y chwith. Heibio’r mast ac i lawr at y Bwlch cyn dringo i fyny Pen y Cloddiau. Roedd y criw yn llwglyd ond ar ôl cael llecyn cynnes yng nghesail y copa oddi tan feddrod oes efydd nid oedd angen ychwanegu i’r bedd gan fod digon o fwyd a diod i adfer y corff a’r ysbryd. Ar ôl bwyd roedd ambell i lygad yn cau yn gorwedd yn gyfforddus yn yr haul ar y grug.
Gyda nifer o gliders yn hedfan a chwibanu ychydig fetrau uwch ein pennau ar brydiau, aethom i ddilyn gwrthglawdd Pen y Cloddiau lle darganfuwyd olion o goed a cherrig 3000 mlwydd oed yn 2017, tra’n edrych lawr i gyfeiriad yr Wyddgrug draw at Sir Gaer. I lawr at y maes parcio cyn dilyn llwybr Clawdd Offa’n serth i fyny Moel Arthur. Esgynnodd Raymond yn gynt na glider i’r copa a chawsom gyfarfod i gyd i gael cip olaf ar olygfa 360 cyn disgyn yn serth i lawr at y ceir.
Diwrnod heulog braf a chwmni difyr.
Adroddiad gan
Hywel Watkin
Lluniau gan Hywel ar FLICKR