HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Cerdin 16 Chwefror


Canu am Gwm Cerdin wnaeth T. Llew Jones, eu gerdded wnaeth Clwb Mynydda Cymru ar ein taith ar Chwefror 16ed.

Dechre o Ysgol Tregroes, ychydig o farddoniaeth (!!!!) wrth y bont yn agos i'r lle ganwyd Christmas Evans ac wedyn drwy Dyffryn Llynod, croesi'r Cerdin a dringo lan i gyfeiriad Post Bach. Wedd, wedd na ddŵr i'w orchfygu ond dim cweit gymaint a thaith Pontsian flwyddyn yn ôl! Nol lawr i Gwm Cerdin, y tro hyn yn croesi'r Cerdin Fach dros font wedd bach yn simsan ond wnath ddal pwyse pawb (ddim gyda'n gilydd!). Yn ein blaenau wedyn lawr i fferm Dinas, lle mae'r Cerdin Fach yn llifo i'r Cerdin, a dringo lan i hen Gaer Dinas Cerdin. Lawr o fynnu a dringo lan drwy Fferm Cwmhyar i gyfeirad Croes-Lan a gorffen drwy droi nôl lawr ar ein pennau i Dregroes.

A chyrraedd nôl a phawb yn weddol sych eleni.

Adroddiad gan Eileen

Lluniau gan Dewi Hughes ar FLICKR