HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Carreg yr Ogof 16 Tachwedd



Dyma deuddeg ohonom yn cyrraedd maes parcio wrth ochr yr afon Sawddle, i’r De dwyrain o Landdeusant. Mae’r llwybr carregog amlwg yn arwain tuag at Llyn y Fan fach a wedi thua awr o gerdded dyma gyrraedd ochr y llyn. Roedd fawr o siawns i weld merch y llyn heddiw gan fod niwl gymharol drwchus yn ein disgwyl ar ôl cyrraedd yno. Uwch ein pen ar ddiwrnod clir buasai copaon Bannau Sir Gâr yn amlwg i’w gweld, ond nid heddiw yn anffodus.

Dyma ddilyn llwybr i’r chwith tro hyn tuag at cefn Bryn y Fuwch gan gadw yn agos i waelod llethrau y copaon uwch ein pennau. Wedi cyrraedd Pant y Bwlch dyma droi yn sydyn i fyny rhych tuag at y copaon ac ymhen dim roeddwn wedi cyrraedd carn Picws Du (749 m). Gan droi i’r De orllewin tuag at Esgair Ddu mae’r llwybrau yn diflannu ac mewn tywydd garw yn sicr mae angen map a chwmpawd i ddarganfod llwybr y Bannau.

Dyma oedi gerbron nant Twrch Fechan i gael cinio, gan edrych i fyny ar lethr carregog Esgair Hir. Ymlaen a ni i’r Gogledd gan ddilyn llwybr y Bannau heibio copa Carreg Las gyda’i garnau sylweddol. Mae carreg las wedi ei greu gan dywodfaen twrch. Ymalen wedyn i Garreg yr Ogof (585 m). Yma mae olion hen chwarel carreg galch.

Dyma ddilyn y llwybr lawr y cwm heibio Garn Fawr a lawr thua ffermydd Gellygron a Pencarreg cyn dilyn y ffordd nôl at y maes parcio. Er gwaeddaf y tywydd cawsom daith diddorol iawn i gopaon mwy anghyfarwydd efallai i lawer yn ardal Bannau Sir Gâr.

Diolch i gwmni pleserus y criw ac yn enwedig i Guto am drefnu ac arwain y daith.

Adroddiad gan Dewi Hughes

Lluniau gan Dewi a Gareth Pierce ar FLICKR