Y Fawddach o’r Bermo i Ddolgellau 17 Awst
Oedd, roedd ein lwc yn siwr o redag allan! Ar ôl i Clive dreulio blynyddoedd yn trefnu teithiau yn gwneud defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, daeth y dydd pan oedd Y BWS YN LLAWN.
Mae bws TrawsCymru am ddim i bawb pob pen wythnos – a pham lai – rhoi Trip Ysgol Sul i’r Bermo i bawb. O diar .. roedd yn rhaid i ni felly wneud penderfyniad sydyn. Daeth ein cerbyd 7 set yn handi iawn. Stwffiwyd 7 o’r 11 cerddwr i’r Cadi Maxi a bu’r gyrrwr yn ddigon clen i adael y 4 arall ar y bws.
Ar ôl hynny aeth y daith ar hyd lanau’r Fawddach yn esmwyth iawn. Cerdded hamddenol gydag awel fwyn o’r môr yn ein hannog drwy gydol y daith. I mi, dyma’r uchafbwyntiau:
- Cerflun Marmor y Bermo sydd wedi ei naddu allan o ddarn o farmor a godwyd o long a ddrylliwyd gerllaw yn 1709. Comisynwyd y cerflunydd lleol, Frank Cocksey i wneud cerflun, yn portreadu 3 cenhedlaeth o bysgotwyr, i ddathlu’r mileniwm.
- Cerdded drwy gnwd sylweddol o Gorn Carw ar y morfa heli ger Pont y Bermo. Hwn ydy’r ‘Samphire’ sydd mor boblogaidd yn awr fel llysieuyn i’w fwyta gyda pysgod. Hyd y gwelaf, nid yw’n gyffredin iawn yng Ngogledd Cymru.
- Mynd heibio Mawddach Crescent a adeiladwyd gan y datblygwr lled-enwgog Solomon Andrews yn ystod Oes Fictoria ac a fu’n gyfrifol am ddatblygu Glyn y Weddw a llawer o Bwllheli pan oedd oes yr ymwelwyr ar gynnydd.
- Aros yn Pwllpenmaen a chofio am y drychinieb a ddigwyddodd ger y jeti yn 1956 pan suddodd llong bleser gan foddi 13 o bobl. Mae mor hawdd anghofio fod trychinebau o’r fath wedi digwydd mewn llefydd ymddangosiadol ddiogel.
Diolch i’r canlynol am ei cwmni: Gwyn Williams a Iona o Lanrwst, Ellis o’r Bala, Dilys ac Aneurin, Haf, Mary o Ddolgellau, Eileen a deithiodd o Ddyffryn Teifi ac Alun o Gaernarfon.
Adroddiad
gan Rhiannon a Clive
Lluniau gan Aneurin, Rhiannon a Clive ar Flickr