HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Cwm Darran 18 Mai


Daeth naw ohonom at ein gilydd i Barc Cwm Darran ar gyfer, mae’n debyg, y daith gyntaf erioed i’r Clwb yn y rhan hon o Gwm Rhymni:  Alison, Alun, Dewi, Meirion, Helen, Digby, Pete, Pens a Gareth – y pedwar olaf wedi byw neu weithio yng Nghwm Rhymni yn y gorffennol.

Roedd y rhagolygon ar gyfer diwrnod cymylog di-law a di-haul yn agos i’w lle wrth i ni ddringo’n raddol tua’r dwyrain o Gwm Darran, heibio storfa ffrwydron hen lofa’r Ogilive a gydag ymyl y goedwig nes cyrraedd un o’r cerrig sy’n marcio hen ffin tiroedd yr Ardalydd Bute. Oddi yno, dringo’r tir agored i gyrraedd crib Cefn y Brithdir ac ymlaen i’w hymyl ddwyreiniol er mwyn dod i olwg hen bentrefi glofaol Abertyswg, Philipstown a Thredegar Newydd, gyda chefnen Mynydd Bedwellte uwch eu pennau.

Barnwyd ei bod yn addas oedi am y paned un-ar-ddeg tra’n gallu mwynhau’r olygfa o’r rhan hon o Gwm Rhymni, gyda’r ehedydd yn canu uwch ein pennau, cyn disgyn yn raddol tua’r de rhwng y walydd cerrig hynod a tharo golwg ar safle hen Gapel y Brithdir. Parhau i ddisgyn wedyn heibio i ffermdai’r Capel a’r Groesfaen Isaf er mwyn croesi Nant Bargod Rhymni dros Bont Caradog a dechrau dringo i gyfeiriad comin Cefn Gelli-gaer.

Wedi cael ciplowg o bentre’r Deri i’r gogledd ohonom, digwydd cwrdd gyda ffermwr Pencerrig oedd yn cychwyn ar ei feic pedair olwyn i chwilio am sbanner y tybiai ei fod wedi ei gadael wrth un o’r gatiau ar fin y comin. Y newydd da i ni oedd ei fod yn fodlon i ni gyrraedd y comin trwy ei dir yn hytrach na gorfod dilyn yr heol trwy ddau glos fferm arall: trwy hynny, roeddem wedi cyrraedd safle Capel Gwladus ar gyfer ein egwyl ginio, gyda golygfeydd i’r de i gyfeiriad Ystrad Mynach a Chaerffili.

Roedd unig bwynt triongli’r daith, ar gopa Carn Bugail (1,560’) yn ymddangos yn bell i rai am chwarter wedi dau, a ninnau wedi dod i olwg capel Craig Fargod a phentre Bedlinog oddi tanom i’r gorllewin. Ond roeddem ar y copa ychydig wedi tri, a chyfle i rai orffwys ar y fforwm annisgwyl oedd yno, cyn cwblhau ein cylchdaith yng ngholwg pentre Fochriw a chyrraedd nol i Barc Cwm Darran, gydag ychydig amser mewn llaw cyn i’r caffi gau!

Adroddiad gan Gareth Pierce.

Lluniau gan Dewi ar FLICKR