HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llwybr y Morwyr 18 Mai


Ymgasglodd 16 ohonom ym Mhwllheli ar fore sych a braf i ddal y bws i Nefyn ar gyfer cychwyn Llwybr y Morwyr: Angharad ac Eryl, Linda a Gwyn, Cheryl a Dei, Eirlys a Iolyn. Rhiannon a Clive, Elen George, John Arthur, Dafydd Morris, Glyn Tomos, Emyr Davies a finna, Anet. Diolch i Clive am yr eglurhad hwn ar  arwyddocâd y llwybr: Erstalwm roedd llawer o forwyr cyffredin o ardal Nefyn yn hwylio ar longau Port. Ambell dro byddai’r llongau hyn yn oedi yn harbwr Abersoch a bryd hynny byddai morwyr Nefyn yn dod i’r lan a cherdded adref ar draws y Penrhyn. Yna byddent yn ailymuno â’r llong yn Port.

Roedd ein taith yn cychwyn ar draws caeau gyda godre Garn Boduan cyn croesi’r lôn am gongl y Gors Geirch, yr unig le roedd y llwybr yn aneglur ac yn fwdlyd. Wrth fynd heibio Penrhyddgan, tŷ hynafol o’r 17g, roedd y llwybrau’n gulion gan berthi, potiau blodau a phlanhigion o bob math ond o’r tir agored tu draw roedd golygfa dda o Garnfadryn yn ein denu yn y pellter. Roedd y llwybr drwy Goed Mynydd Meilian gyda’r parcdir ar y dde yn ddymunol a’r enw Coed Creigiau Cathod tua Nant Gledrydd yn ein hatgoffa mai yma yn ôl y sôn y gwelwyd y gath wyllt olaf yng Nghymru.

Wedi paned sydyn doedd dim esgus i loetran ac i ffwrdd â ni am y bwlch rhwng Garnfadryn a Garn Bach. O’r bwlch penderfynodd pawb ond dau ddringo Garnfadryn (a phenderfynodd yr arweinydd mai rheitiach oedd gwarchod y ddau hynny a thorheulo wrth wal y mynydd yn hytrach na hebrwng y mwyafrif i’r copa!). Awr go dda yn ddiweddarach i lawr â ni tua Dyffryn Nanhoron gan ddotio at y ddraenan wen a blodau’r gwrychoedd. Saib bach ar bont Llidiart y Dŵr i sylwi ar lechan gyda’r geiriau Inkerman 5th Nov.1854 arni, llechan a osodwyd i gofio am etifedd Stâd Nanhoron a laddwyd yn Rhyfel y Crimea.

Ymlaen wedyn heibio’r Ffatri a’r Pandy, y ddau yn ein hatgoffa o ffordd wahanol o fyw yn y blynyddoedd a fu. I fyny gyda Chomin Mynytho a’r Foel Fawr cyn cychwyn i lawr tua Llanbedrog a chyrraedd Plas Glyn y Weddw mewn pryd i gael panad yn yr haul a chipolwg sydyn ar luniau trawiadol Rob Piercy yn yr Oriel. Dewisodd tri ddychwelyd i Bwllheli ar y bws a cherddodd y gweddill ohonom yno ar hyd Llwybr yr Arfordir.

Adroddiad gan Anet.

Lluniau gan Anet ar FLICKR