HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Llanfairpwll 18 Rhagfyr



Er mai John Parry, Llanfairpwll, a arweiniodd y criw niferus ar y daith hon, gwnaed yr holl drefniadau gan gynnwys trefnu’r cinio Nadolig yn y Penrhos Arms yn drylwyr ac effeithiol gan Nia Wyn Jones.

Cychwynnwyd trwy’r pentre heibio cwt sinc Sefydliad y Merched sef y gangen gyntaf o’r mudiad hwnnw ym Mhrydain yn 1915 a’r hen dolldy a gaewyd yn derfynol yn 1895. Yna aethpwyd at Dŵr Marcwis sydd wedi’i gau bellach (dros dro beth bynnag) ac a godwyd rhwng 1816 ac 1817 i gofio am wrhydri Marcwis cyntaf Môn ym mrwydr Waterlŵ (un o’r amryw o symbolau militaraidd sydd yn yr ardal).

Yna cerddwyd trwy goedwig ar yr afon Menai (culfor mewn gwirionedd) a syllu mewn rhyfeddod ar y tŷ ar Ynys Gorad Goch ynghanol yr afon cyn troedio dan anferthedd Pont Britannia a chael cyfle i gyfarch dau o’r pedwar llew tew a chofio am glasur y Bardd Cocos iddynt.

Ym mynwent yr Eglwys gwelwyd y gofgolofn a godwyd i gofio am y trueiniaid a drengodd wrth adeiladu Pont Britannia ynghyd â bedd urddasol Syr John Morris Jones, y gŵr a roddodd seiliau mor gadarn i’r Gymraeg a’i llenyddiaeth. Gwibiwyd yn sydyn heibio cerflun anferthol i Nelson ar lan yr afon cyn cyrraedd porthladd bychan Pwll Fanogl lle bu cryn brysurdeb ar un adeg ac a fu yn gartref am flynyddoedd i’r arlunydd enwog Syr Kyffin Williams – perl o le.

Yna anelwyd am Siambar Gladdu enwog Bryn Celli Ddu ond yr oedd amser yn drech na ni a bu’n rhaid troi’n ôl yn hytrach na cholli cinio blasus yn y Penrhos Arms. Gerllaw y lle hwnnw trist oedd gweld cyflwr truenus Tŷ Coch, sef hen gartref Syr John Morris Jones. Serch hynny, bu dathlu mawr yn y Penrhos Arms a phawb wedi’u digoni’n llwyr ac yn barod am y Nadolig.

Adroddiad gan John Parry, Llanfairpwll 

Lluniau gan Anet a Gwenan ar FLICKR