HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Taith Cwm Caerfanell 19 Ionawr


Daeth criw o naw at ei gilydd ym maes parcio Blaen y Glyn rhyw dair milltir o gronfa ddŵr Talybont.

Dyma godi yn unionsyth fyny tuag at Graig Fan Ddu (683 m), dilyn y llwybr ar hyd Graig Fan Las nes cyrraedd Rhiw Bwlch y Ddwyallt. Mae modd darganfod carreg coffa a gweddillion awyren Wellington daeth lawr yn 1942 tua hanner cilomedr oddiar y brif lwybr yma. Lladdwyd criw o fechgyn o Ganada ac mae cofgolofn syml yn nodi y ddamwain. Penderfynwyd ymweld a’r man yma ar y ffordd nôl o’r daith y tro hyn.

Ymlaen felly ar hyd Waun Rydd nes cyrraedd Carn Pica. Siom oedd gweld rhywfaint o ddifrod i'r Carn o achos y tywydd tybiwn. Ar ddiwrnod clir byddai rhywun yn medru gweld lawr y cwm tuag at Glyn Collwyn a chronfa ddŵr Talybont.

Dyma droi tua’r De ar hyn y grib nes cyrraedd Carn arall. Troi wedyn i’r Gorllewin eto fan gadw at y grib y gigfran. Ymhen rhyw chwarter awr dyma gyrraedd llwybr yn arwain lawr tua’r carreg goffa. Gan gerdded trwy hen chwarel nôl i’r Dwyrain dyma gyrraedd llwybr gymharol lydan yn arwain lawr y cwm tuag at afon Caerfanell. Gan ddilyn yr afon ar hyd y llwybr dyma gyrraedd pont i’w groesi wrth ymyl rhaeadr ddŵr.

Lawr trwy’r coed am ychydig cyn troi yn unionsyth fyny yn serth nôl i’r maes parcio. Taith gymharol fer ond angen gofal ar lwybrau gymharol anwastad ar adegau.

Er gwaethaf y niwl a’r oerfel cafwyd taith ddiddorol mewn cwmni da.

Adroddiad gan Dewi

Lluniau gan Dewi ar FLICKR