Pedol Nanmor 19 Ionawr
Y man cyfarfod oedd maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger pont Aberglaslyn (SH 597462), a daeth 10 ohonom i fwynhau’r daith amrywiol hon drwy ardal hynod o hardd, sef Eirwen ac Alun Fachwen; Vanessa o Lanegryn; y ddau Hywel o gyffiniau Dinbych; Richard, Robert ac Aaron o ardal Rhuthun; Gwyn Llanrwst, a Rhys yn arwain.
Cychwynnodd y 10 ohonom i fyny drwy bentref Nanmor â’r glaw mân dros nos yn cilio i adael pobman yn disgleirio yng ngolau’r bore. Troesom i’r chwith wrth y Capel, ac yn fuan wedyn, dal i’r dde i ddilyn y llwybr drwy’r caeau a’r coedydd heibio Tŷ Mawr ac allan i ffordd Cwm Nanmor wrth droed Yr Arddu. Roedd y mwsogl ym mhobman yn rhyfeddol o wyrdd oherwydd mwynder y gaeaf hyd yn hyn. (Llun 1)
Chwyswyd tipyn yn dringo llethr Yr Arddu i’r de ddwyrain, gyda’r llwybr yn mynd a dod tuag at y copa. Yno roedd golygfa hardd yn ein disgwyl, i lawr am wastadedd Glaslyn a Phorthmadog (Llun 2) a thuag at Cnicht, a’i het eira yn y niwl (Llun 3). Ar ôl paned yno, anelwyd i’r gogledd ddwyrain ar hyd y topie er mwyn osgoi’r gors islaw, a chroesi am ysgwydd Cnicht ym Mwlch y Battel. Yno, oherwydd cyflwr yr eira ar Cnicht (rhy feddal i gramponau a rhy beryglus, wlyb i fentro talcen y grib) penderfynwyd mynd ymlaen drwy’r bwlch i lawr am Gelli Iago i’r gogledd ddwyrain.
Ar ôl cinio a sgwrs wrth gyn-Gapel Blaennant, troesom am lyn Gwynant drwy ddilyn y llwybr heibio Hafod Owen. Roedd yn bnawn braf, a’r llyn yn llonydd rhwng y muriau rhedyn coch o’i gwmpas. Tro galed yng nghynffon y daith oedd pwmpio’r coesau i ddringo o’r llyn am y Grib Ddu a Chwm Bychan, gan basio olion y cloddio am gopr a mwynau eraill. Wrth ddod dros y top, oedd yr haul yn boddi tŷ draw i’r Cob, a llwydni noswyl yn nesáu.
Gyda’r wlad mor hardd a’r cwmni mor ddifyr, pa ffordd well o dreulio dydd Sadwrn ym mis Ionawr?
Adroddiad: Rhys Dafis
Lluniau gan Rhys a Hywel ar FLICKR