HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arenig Fawr a Moel Llyfnant 19 Hydref


Roedd deffro i sŵn glaw trwm yn curo i lawr ar y ffenest yn awgrymu ei fod yn ddiwrnod da i droi drosodd a swatio. Nid oedd y daith i lawr tuag at y Bala yn cynnig unrhyw deimlad o obaith ar gyfer y diwrnod o'n blaenau chwaith. Awyr dywyll, cymylau isel, niwl trwchus, glaw trwm. Roedd y rhagolwg yn awgrymu oerfel gwynt o minws saith ar y copaon a risg o fellt a tharanau.

Roedd ddipyn o syndod fel yr  oeddwn yn cyrraedd chwarel Arenig i weld newid i amodau tawelach ac awyr yn clirio. Yn sicr ni allai bara'n hir! 11 ohonom yn cychwyn at hyd y lon at gychwyn y llwybr am Lyn Arenig Fawr gyda gobaith y byddai'n parhau fel hyn. Y syniad oedd cael paned yn y lloches ger y llyn ond gyda'r tywydd da roedd pawb yn awyddus i symud ymlaen a gwneud y gorau o'r amodau ffafriol. Fe barhaodd cwpl o oriau, a hyd yn oed pan ddirywiodd, nid oedd yn cymharu â'r rhagolygion gan y gwasanaeth gwybodaeth tywydd mynydd MWIS.

Wrth i ni gyrraedd y llwyfandir uwchben llyn Arenig Fawr am seibiant, fe ddisgynnodd y niwl a cyrhaeddodd y glaw. Fel hyn bu hi am y ddwy awr nesaf wrth i ni wneud ein ffordd dros gopa Arenig Fawr mewn niwl trwchus ac i lawr i'r dyffryn o dan Moel Llyfnant. Nid yw'r dyffryn hwn y lle sychaf yn ganol yr haf felly nid oedd yn syndod ein bod wedi cael amser heriol, ar ôl yr holl law y diwrnod cynt, yn cadw'n sych tra'n croesi'r corsydd cyn ein esgyniad olaf i fyny Moel Llyfnant.

Fel oeddwn ar fin cychwyn dringo, fe gliriodd y niwl a daeth ein targed i'r golwg. Nid oedd yn hir cyn i ni stopio i dynnu haenau ar ôl cynhesu wrth ddringo'n serth tuag at y copa. Wrth i ni gyrraedd y copa cafom olygfeydd am filltiroedd o gwmpas a cael gweld Arenig Fawr am y tro cyntaf. Cymeryd y cyfle i fwynhau'r diferyn olaf o de a choffi yn ein fflasgiau cyn dilyn y grib lydan i lawr i Amnod Bwl. Fel yr oeddem i gyd wedi sychu, tywyllodd yr awyr ac fe agorodd y nefoedd unwaith eto i wlychu pawb cyn cyrraedd y ceir.

Wrth gyrraedd adref mi oedd yn amlwg nad oedd y tywydd wedi newid llawer yng Ngogledd Eryri trwy'r dydd. Teimlad ddigon cysurus ein bod wedi dewis teithio i ffwrdd oddiwrth y tywydd garw ac wedi bod ddigon ffodus i fwynhau diwrnod ffafriol iawn ar y cyfan.

Adroddiad gan Stephen

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR