Y Carneddau – Pedol Cwm Penllafar 22 Mehefin
Daeth 8 o gerddwyr ynghyd ar fore Dydd Sadwrn heulog – Meinir, Nia, Hawys, Gareth Efret, Hywel Prion, Peter,a finnau a braf oedd cael croesawu Michaela, ar ei thaith gyntaf hefo’r clwb.
Cerddom i fyny drwy Gerlan a braf oedd cael dau arall i ymuno â ni, sef Morfudd a Hefin. Cyrhaeddom pen y ffordd ac allan i’r mynydd gan gerdded gyda godre Gyrn y Wigau. Yna wnaethom ddilyn clawdd ar ffordd drol i gyfeiriad Cwm Caseg ble ddaru Morfudd a Hefin ein gadael er mwyn mynd ymlaen i Foel Grach. Cyrhaeddom godre’r grib dwyreiniol gan ddringo yn serth i gopa’r Elen a penderfynu cael seibiant a chinio yn yr haul. Byr iawn oedd y seibiant gan i ni gael ein poenydio gan wibiaid bach.
Aethom ymlaen wedyn i lawr y grib i’r bwlch cyn codi nôl eto i gopa Carnedd Llywelyn. Wrth ymlwybro lawr i Fwlch Cyfrwy y Drum, ymunodd Morfudd â ni eto am weddill y daith. Cyn cyrraedd Carnedd Dafydd daethom ar draws Gerallt, Iolyn a John Parry a oedd yn rhan o dîm cefnogi Dwynwen a Sian ar eu taith pedwar copa ar ddeg. Cafwyd seibiant byr ar Carnedd Dafydd cyn cychwyn lawr Grib Lem i ben Cwm Llafar. Roedd pawb wedi mwynhau yr her o ddod lawr y grib erbyn cyrraedd y gwaelod.
Cerddom ymlaen yn hamddenol wedyn i lawr y cwm yn ôl drwy Gerlan i’r maes parcio. Cafwyd diwrnod da o fynydda go iawn gyda chwmni hwyliog!
Adroddiad Gareth Wyn
Llun gan Gerallt Pennant ar FLICKR