HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Epynt 22 Mehefin


Mynydd Epynt – mynydd wedi'i groesi gan lwybrau ceffyl.

Mentrodd 10 ohonom ar Sadwrn braf ar daith gylch tua 12 milltir, gan gynnwys 9 milltir ar hyd llwybr Epynt, o Ganolfan Ymwelwyr Epynt ym mhentref Dolau Honddu ger Capel Uchaf. Mae llwybr Epynt (y daith llawn) yn 54 milltir ac yn ffinio tir a feddianwyd gan y fyddin yn 1940.

O'r Ganolfan mae'r llwybr yn hawdd i'w ddilyn gan anelu at gyfres o bostiau gyda top melyn a logo Llwybr Epynt sy'n marcio'r llwybr cyfan. Mae'r tirwedd am y rhan fwyaf yn rostir agored, er fod nifer o fannau coediog conwydd a blanwyd gan y fyddin ar gyfer ardaloedd lloches a mannau i'w hamddiffyn. Mae'r sgwariau yma o goedwigoedd bychan yn nodweddiadol o Epynt a gellir adnabod yr ardal o hirbell oherwydd hyn. Mae rywfaint o goed a thir naturiol wedi' i ffensio i'w harbed.

Wedi cerdded tipyn daethom ar draws yr unig biler triongli ar y rhan yma o'r daith -437 m.

Gwelir fflagiau coch yn achlysurol ar y daith ac wrth gerdded ffordd garegog a ddefnyddir gan y fyddin, yn ein hatgoffa fod y fyddin yn yr ardal rhywle heddiw a thoc wedi 11 clywsom swn yn tarannu yn y cefndir.

Croesom dir amaethyddol a oedd yn amlygu'r gwahaniaeth yn y tirlun agored, a golwg o bellter o chwarel enfawr Llanfair ym Muallt. Nes ymlaen, croesi cwm bychan hyfryd, wedyn afon Blaen Duhonw nes ymlaen ac yn fuan wedi cinio yn fan hyn cerdded ar hyd erchwyn (escarpment) uchel gyda golygfeydd godidog am y Garth a Llanwrtyd.

Yn anffodus, roedd yn rhaid gadael llwybr Epynt yn fuan wedyn a cherdded ar y B4519 tuag at y Ganolfan. Ar y ffordd gwelsom rai o'r tai a'r ffermydd y gorfodwyd i'r Cymry eu gadael yn 1940. Dim ond ychydig rybudd a gafwyd a chollodd 219 o bobl eu cartrefi, a 54 o dai drwy orfodaeth gorchymyn prynu tir. Ardal hollol Gymreig oedd hon ac fe'i collwyd yn gyfangwbl erbyn Mehefin 1940.

Rhoddwyd enwau Saesneg ar yr adeiladau a ddefnyddir fel lloches i'r milwyr, ond bellach mae arwyddion newydd wedi'u gosod arnynt gyda'r enwau gwreiddiol – dangos rhywfaint o barch.

Ar y ffordd gwelwyd Ffrwd Wen – symudodd y teulu i Llanwrthwl. Drovers Arms - y dafarn ond cragen lloches bellach ac enw'r Drovers Arms a Ministry of Defence odditano yn rhoi halen ar y briw. Yr enw Drovers yn amlwg gan fod yr ardal yma yn yr hen amser yn enwog wrth i'r Porthmyn groesi yma o Orllewin Cymru i fynd â'i cynnyrch i lefydd fel Aberhonddu ac ymhellach. Symudodd Mrs Caroline Evan a'i mab i Capel Uchaf  rhyw 3 milltir i ffwrdd. Yn ôl yn y Ganolfan (neu Disgwylfa) gwelir fodd arddangosfa ddifyr o hanes yr ardal yn bodoli ac yn agored i'r cyhoedd gyda lle i gofnodi sylwadau.

Yr unig sylw posib.............. COFIWCH EPYNT

Adroddiad gan Emlyn Penny Jones

Llun gan Emlyn Penny Jones ar FLICKR