HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Creigiau Gleision a Phen Llithrig y Wrach 23 Chwefror


Roedd hi’n fore arbennig o braf o fis Chwefror. Daeth 9 ohonom ynghŷd i faes parcio Joe Brown yng Nghapel Curig. Roedd y rhaglen a’r daith yn “Copaon Cymru” yn son am gyrraedd copaon Y Crimpiau, Creigiau Gleision a Phen Llithrig y Wrach. Ond roedd addewid i ddod yn ôl mewn da bryd i weld Cymru yn llorio Lloegr yn rygbi’r chwe gwlad!

Wedi croesi’r A5 a chychwyn ar lwybr clir i gyfeiriad Crafnant, cyn esgyn yn serth ar y chwith, aed ymlaen yn raddol ar lwybr anelwig ar brydiau i gopa’r Crimpiau, gan ryfeddu ar olygfa arbennig o Lyn Crafnant. Yna disgyn cyn dringo eto heibio’r Graig Wen, ac ymlaen i gopa Creigiau Gleision. Nadreddu’r llwybr wedyn i lawr at argae Llyn Cowlyd, cyn mwynhau ysbaid a chinio yng nghysgod yr argae.

Yn hytrach na chodi i gopa Pen Llithrig y Wrach, yn unol ar addewid, aed yn ôl i gyfeiriad Bwlch Thri Cwmwd, ac ar hyd glan orllewinol Cowlyd, cyn disgyn i lawr i’r A5 a Chapel Curig. Roedd yr ardal yma yn ddiethr i’r rhelyw o’r cyfeillion, gyda phawb yn rhyfeddu at y tirwedd garw. Diolch am gwmni hwyliog Gareth Everett, Iolyn ac Eirlys, Huw Williams, Dafydd Richard Jones a John Arthur, Dwynwen a Gerallt. Diolch arbennig i Gerallt am ddarparu lluniau o’r daith.

Adroddiad Gwyn Williams

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR