Talybont i Aber 23 Hydref
Daeth 28 i Abergwyngregyn bore Mercher 23 Hydref i ddal bws i Dalybont a chychwyn cerdded yn ôl am Aber. Yn fuan daethom at hen felin Cochwillan a chael hanes llofruddiaeth y melinydd ym 1778.
(Gweler Hanes Dyffryn Ogwen ar y we)
Dilyn Llwybr y Gogledd oeddem heibio tŷ hynafol hardd Cochwillan gan fynd trwy gaeau a dilyn ffyrdd gwledig a chael paned cyn cyrraedd Bronnydd. Darllenwyd cerdd o waith y Prifardd Ieuan Wyn, Tiroedd Ein Cof, sy’n sôn am yr ardal yma yn edrych i lawr dros draeth Lafan am Llanfaes a Phenmon, a’r haul yn tywynnu erbyn hyn. (Mae Côr y Penrhyn wedi recordio’r gerdd i gerddoriaeth Owain Llwyd ar y CD Gwlad, Gwlad)
Dilyn ffordd y Lord (Penrhyn) wnaethom yr holl ffordd wedyn ac ar ôl cael cinio. cyrraedd y rhaeadrau ym mhen draw’r cwm, a digon o ddŵr yn llifo a chyfle i dynnu lluniau.
Wedi cyrraedd yn ôl at y ceir yn Aber aethom i lawr at lan y môr i dŷ Dewi a Rita am wledd lythrennol o gacennau a phaneidiau haeddiannol tra’n gwrando ar Huw Roberts yn rhoi datganiad a dipyn o hanes y delyn deires.
Braf iawn oedd cael cwmni Llŷr, Gareth, Nia, Rhiannon, Gwyn a Linda, Anet, Ann Till, Mair, Gwenan a Gwil, Arwel, Nest a Ken o Landdaniel, Raymond, Rhiannon a Clive, John Arthur, Aneirin a Dilys, Haf, Iona, Dafydd, Arwyn, Huw, John Parry, John Williams a Rhys.
Adroddiad gan Rhys
Lluniau gan Gwyn, Anet a Gareth ar FLICKR