HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Pedol Cwellyn 24 Tachwedd



Efo rhagolygion y tywydd yn gaddo niwl a chymylau isel dyma gychwyn o dafarn Y Snowdonia yn fân ac yn fuan. Pymtheg wedi ymuno â’r daith, Daron o Riwlas ar ei thaith gyntaf efo'r clwb, Morfudd, Sioned, Iolo, Eryl, Iolyn, Gareth Pierce, Keith, Sian Port, Rheinallt, Dafydd Legal, Sonia, Carwyn, Gerallt a Dwynwen.

Cychwyn i fyny’r Lôn Wen am Rosgadfan ond troi yn eitha buan ar y Llwybr Llechi. Er mai troi oddi ar y Llwybr Llechi naethom i fynd i gopa Moel Smytho death y Llwybr Llechi yn fwy cyfarwydd wrth i'r daith ymuno ac ail ymuno a'r llwybr mewn sawl lle gydol y dydd.

O gopa Moel Smytho dyma anelu am Fynydd Mawr a tharo ar Elen Huws tua hanner ffordd i fyny cyn cael paned ar y copa. Ar ôl ffarwelio efo Elen dyma ddisgyn, yng ngwir ystyr y gair i rhai o'r criw, i lawr y grib a thrwy'r coed i Planwydd.

Ar ôl ychydig latheni yn unig ar y lon bost dyma droi tua Glan yr Afon ac wedyn drwy fuarth Bron y Fedw Uchaf, cartref cyndeidiau Gareth. Ar ôl croesi'r rheilffordd, cinio a'r "tîm ffoto" gorfodol cyn cario mlaen i fyny at Lwybr Cwellyn a Bwlch Maesgwm.

Efo'r coesa yn dechra blino ella da o beth ein bod yn y cymylau erbyn hyn a ddim yn gweld y dringo o'n blaenau. Serch hynnu, roedd yn criw yn mynd yn dda a buan iawn ddaeth copaon Foel Goch, Foel Gron a Moel Eilio. Llawr allt wedyn holl ffordd o gopa Moel Eilio i Fwlch y Groes cyn disgyn lawr i Waunfawr ar y Llwybr Llechi.

Er y rhybydd y byddai angen torch ben dim ond yr hanner awr ddiwethaf oedd eu hangen ond da eu cael ar y darn mwdlyd ofnadwy yma.

Peint headdianol a swper yn dafarn Y Snowdonia i gloi diwrnod gwych efo cwmni da.

Adroddiad gan Dwynwen Pennant

Lluniau gan Gerallt Pennant a Morfudd (Gareth yn golchi ei siaced!) ar FLICKR