Taith mango Cwm Nantcol 26 Mehefin
Daeth un-aelod-ar-ddeg cyn belled â Llambad, Ardudwy, i ymuno â’r arweinydd i ddilyn rhai o lwybrau gwaith mango (manganîs) Cwm Nantcol. Dilynwyd y ffordd i fyny i’r Cwm, heibio Capel Salem a Hendre Waelod, hen ffermdy lle gellir gweld yr englyn yma, wedi ei naddu ar garreg sydd erbyn heddiw’n cynnal y giât fach i ardd y tŷ.
“Plennais, da gwisgais dew gysgod, - o’th gylch
Wedi’th gael yn barod:
Wele, yn Hendre Waelod,
Byddi di – a fi heb fod.”
Tebygol mai gwaith un o’r Phylipiaid yw’r englyn, ac iddo gael ei sgwennu tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg, pan oedd cysylltiad rhwng Hendre Waelod â’r Phylipiaid.
Ymlaen wedyn cyn belled â Chilcychwyn, a dilyn y ffordd i fyny i fferm Graig Isa, lle cawsom air efo Moira, chwaer yng nghyfraith Haf Llewelyn, am y golygfeydd i’w gweld o’n cwmpas. Yn yr hen lyfr ‘Ardudwy a’i Gwron’ gan David Davies o Harlech, disgrifir Cwm Nantcol fel lle gyda ‘dolydd meillionnog, afon ddolennog, ffynhonnau grisialog, nentydd cerddorol, a mynyddau yn binaclau o arucheledd.” Dyna’n sicr welson ni ar y diwrnod arbennig hwn.
Parhau wedyn i ddilyn rai o ffyrdd y gwaith mango heibio Graig Ucha i gyfeiriad Llyn Hywel, a sylwi ar y gwahanol olion sydd i’w gweld hyd heddiw – lefelau, pentyrrau o wastraff y garreg dywyll, twneli, a’r hen efail. O ran ucha’r llwybr, roedd golygfa dda o Benrhyn Llŷn a Mochras, lle llifa’r afon Artro i’r môr, yn ogystal â Rhinog Fawr i’r gogledd, y Llethr a’r Moelfre tua’r de, a’r Cwm fel clytwaith lliwgar oddi tanon ni.
Penderfynwyd cael ein cinio ar lan Llyn Hywel, cyn dilyn y llwybr heibio Llyn Cwmhosan ac i lawr am Fwlch yr Haul, Bwlch Drws Ardudwy. Cyn bo hir roedden ni wedi cyrraedd Maes y Garnedd, cartref y Cyrnol John Jones, brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell, a arwyddodd Warant Marwolaeth Siarl I, ac a ddienyddiwyd yn ddiweddarach. Wedi ffarwelio â rhai o’r cerddwyr yma, ac eraill ar ôl cyrraedd yn ôl i Lambedr, aeth rhai ohonom i’r Vic am ddiod bach cyn i bawb fynd am adref.
Diolch i Emyr, Rhiannon HJ, Nia Wyn (Seion), Nia Wyn a Meirion, Winnie, Rhys, Ann a Jane, a John Arthur am eu cwmni.
Adroddiad gan Haf
Lluniau gan Gareth ac Anne ar FLICKR