HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader/Cadair Idris 27 Gorffennaf


Dyma 25 o aelodau o bob cornel yn ymgasglu yn Nôl Idris ger Minffordd i anelu at copa Cadair Idris. Mae Dôl Idris ei hun yn lecyn hardd a diddorol gan taw yma dechreuwyd busnes Lemonêd Idris gan ddau frawd lleol.

Dyma ddringo i fyny trwy goedwig lle gwelir casgliad da o fwsoglau a rhedynau. Ceir amrywiaeth dda o gennau yma hefyd.

Ar ben y ceunant, mae olion hafoty,a gwelir yma hefyd olion nifer o hen derfynnau. Cyn cyrraedd dysgl gron Cwm Cau, mae creigiau mawr llyfn yn tori trwy groen y tir fel morfilod llonydd. Dyma’r cerrig myllt, sy’n dangos crafiadau’r rhewlif a ffurfiodd y cwm filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Mae Cwm Cau yn un o’r cymmoedd gorau o’i fath yn Ewrop, gyda Chraig Cau yn codi tua 1000 o droedfeddi uwchlaw. Lle hyfryd i gael paned a rhyfeddu ar gogoniant y lle fel gwnaeth Darwin ac eraill yn eu tro.

Mae’r llwybr i ben Craig Cau ymhlith y mwyaf dramatig yn Eryri. Gwelwyd cip trwy agen serth o graig i lawr y dibyn at Lyn Cau.

Wrth ddringo at  Benygadair daethom fewn i niwl a gofal sydd angen i gyrraedd y copa mewn ffasiwn dywydd. Wedi paned a sgwrs yn y cwt ar y copa dyma droedio tuag at Mynydd Moel ble mae’r ddaear ar ei mwyaf llwm. Yn nghysgod y cwm mae grug yn rhoi gorchudd piws cyfoethog dros y llethrau yn yr Haf. Wedi cyrraedd copa Mynydd Moel dyma droi lawr tua’r dyffryn gan ddilyn llwybr go arw erbyn hyn. Wedi croesi nant Cadair dyma droedio lawr trwy’r ceunant unwaith yn rhagor i Ddôl Idris a phaned.

Taith hyfryd mewn un o lefydd hyfryta Cymru gyda cwmni hwyliog.

Adroddiad gan Dewi Hughes

Lluniau gan Dewi ar FLICKR