HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Nantlle 28 Medi


Er rhagolygon tywydd gwael, a llawer o aelodau’r clwb yn yr Iwerddon, daeth chwech i Ryd Ddu i gerdded Crib Nantlle ar ei hyd.

Gyda hyrddiau 50 mya o wynt yn cael eu rhagfynegi am y bore, penderfynwyd hepgor Y Garn a Mynydd Drws y Coed gan gadw at dawelwch y goedwig a cherdded am Fwlch y Ddwy Elor ac yna i fyny’r fraich at Drum y Ddysgl. Nid oedd y gwynt mor ffyrnig erbyn cyrraedd y grib, a cafwyd diwrnod da, bron yn gyfan gwbl ddi-law, yn dilyn y gefnen dros Fynydd Tal-y-Mignedd, Craig Cwm Silyn, Garnedd Goch a Mynydd Graig Goch, cyn disgyn lawr am Lyn Cwm Dulyn a’r ceir oedd wedi eu gadael yno. Cafwyd golygfeydd gwych efo ambell gyfnod niwlog.

Croeso i Nia Gwyn Meacher, aelod newydd, a diolch iddi ac i Eirwen, Iolo, Dafydd Legal a Maldwyn am eu cwmni.

Adroddiad gan Elen Huws

Lluniau gan Elen ag Eirwen ar FLICKR