Mynyddoedd Mourne 28 Medi-5 Hydref
Ar y daith: Anet, Gwyn (Chwilog), Sioned, Rhian, Raymond, Arwel, Iona, Tegwen, Med, Mair, Gwen, Gaenor, Morfudd, Alwena, Sian, Marion, Iola, Gwynfor, Linda a Nia.
Er nad oedd y tywydd yn arbennig o dda, cafwyd wythnos ddiddorol gydag amrywiaeth o deithiau wrth fodd a gallu pob un o’r criw.
Dydd Sul: Slieve Bearnaigh, Slieve Meelmore a Slieve Meelbeag. Aeth y criw cyfan i’r maes parcio nepell o’r tai i gyflawni taith gylch dros y mynyddoedd yma. Yn anffodus, cafwyd niwl ar gopa Slieve Bearnaigh wrth i ni fwyta ein cinio ond ciliodd y cymylau ar brydiau i roi golwg o’r mynyddoedd gerllaw.
Dydd Llun: Taith un ffordd o Bloody Bridge i Trassey, gan gynnwys Slieve Donard. Dechreaud braf a cynnes wrth gerdded ar lannau’r Bloody bridge river i gyrraedd y wal. Doedd dim ond dilyn y wal cyn belled a Hare’s Gap. Erbyn cyrraedd copa Slieve Donard, roedd y cymylau wedi disgyn ond heddiw eto, ciliodd y cymylau ar brydiau i alluogi golygfeydd. Cerdded yng Nghoedwigoedd Tollymore Forest Park oedd dewis rhai.
Dydd Mawrth: Taith yr Iâr, y Ceiliog a’r Golomen - Hen, Cock and Pigeon Mountains. Diwrnod cymylog eto, ac yn glawio ar y dechrau. Fe giliodd y glaw ond fu’r daith yn un gwlyb ofnadwy o dan draed. Aeth rhai o’r criw i gerdded ar lan y môr heddiw.
Dydd Mercher: Slieve Binnian, Slieve Lamagan, Cove Mountain.
Gan mai hwn oedd y diwrnod gorau o ran tywydd, cynlluniwyd diwrnod go fawr ar ei gyfer. Aeth y criw cyfan i faes parcio y Silent Valley cyn rhannu yn bedwar. Aeth un grwp i esgyn Slieve Binnian a cerdded yn ôl ar hyd lan y gronfa, un arall i Slieve Binnian ac i lawr i Carrick Little heibio ogof Percy Bysshe, criw arall i gerdded y llwybrau yn y parc, a’r criw olaf i wneud taith hir un ffordd yn ôl i Bloody Bridge. Daeth Gareth Pierce, a oedd yn y cyffiniau, i gerdded gyda ni heddiw.
Dydd Iau: Diwrnod o orffwys ar y cyfan. Aeth Iona a Mair i gerdded yn y goedwig.
Dydd Gwener: Slievemeen a Slievemartin o Rostrevor. Y bwriad oedd mynd ar draws Carlingford Lough ar y fferi, ond doedd hwn ddim am hwylio tan ddau o’r gloch y prynhawn, oherwydd storm Lorenzo. Newidwyd y cynllun ac aethom i Rostrevor a cerdded trwy’r goedwig i ddau gopa bach, sef Slievemeen a Slievemartin, ar ôl cael paned yn y caffi yn y parc.
Adroddiad gan Raymond Griffiths
Lluniau gan Morfudd, Gwyn a Raymond ar FLICKR