HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Dwythwch 31 Mawrth


Daeth pymtheg ynghyd i Lanberis a chyfarfod wrth gaffi Pete’s Eats, rhai tu allan a rhai eisoes wedi cael eu brecwast tu mewn. 

Cychwyn am y lôn fach heibio’r ceunant a’r rheilffordd a chodi dros y caeau i’r llwybr sy’n arwain at Fwlch Maesgwm.

Dargyfeiriad byr i gael edrych ar olion y maes saethu o dan Ty’n yr Aelgerth cyn dilyn llwybr annisgwyl yn syth am gopa’r Foel Goch (wedi’r cyfan, Pedol Cwm Dwythwch oedd y daith).

Paned byr wrth lan môr (hynny yw petawn i wedi bod yn yr un man 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl), cyn codi am y grib.

Cinio yn yr haul braf ar ben Moel Eilio cyn disgyn yn ôl i lawr ochr arall Cwm Dwythwch ac yn ôl i Lanberis. Y criw yna yn chwalu i amrywiaeth o gaffi yn y pentref.

Taith hamddenol o 5 awr a hanner.

Adroddiad gan Dylan Huw

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR