HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Cabanau Inchree, ger Onich 25 Mai i 1 Mehefin


Er na phrofwyd yr un tywydd gwych ac a gafwyd am wythnos gyfan ar deithiau Mai’r ddwy flynedd ddiwethaf i Torridon ac An t-Eilean Sgitheanach (Skye), cafwyd tridiau sych a braf a thridiau gwlyb – sydd ddim yn rhy ddrwg o ran tywydd ansefydlog gorllewin yr Alban.

Ar y Sul cyntaf glawog, penderfynodd y rhan fwyaf gerdded cymal o’r We_t Highland Way tra’r aeth criw llai am Sgor na h-Ulaidh, un o fynyddoedd mawr Glencoe. Croesawyd hwy i’r copa gan gawod o eira, cyn dychwelyd drwy’r cwmwl trwchus a oedd yn cuddio pob golygfa drwy’r dydd.

Drannoeth gwellodd pethau’n fawr o ran y tywydd a chafwyd amrywiaeth o deithiau. Y West Highland Way oedd hi i rai eto, gan wneud trydydd cymal ar y dydd Mawrth i gwblhau bron 40 milltir o Inveroran i Fort William. Troi am Glencoe wnaeth eraill i fynd lawr Glen Etive a chyrraedd copa tri Munro sylweddol: Ben Starav, Beinn nan Aighenan a Glas Bhein Mhor.

Parhaodd yr haul i wenu am ddeuddydd arall a manteisiwyd ar hynny gyda’r grŵp mwyaf niferus yn dewis dwy o deithiau clasurol yr ardal; crib Aonach Eagach a’i ddau Funro, Meall Dearg a Sgorr nam Fiannaidh ar ddydd Mawrth a thrannoeth Cylch Steall (a’r hwyl o groesi’r bont weiran enwog!) a chopaon An Gearanach, Stob Coire a’Chairn, Am Bodach a Sgurr a Mhaim. Bu eraill ar gopaon Stob Coire Raineach ar grib y Buachaille Etive Beag, Bidean nam Ban a Stob Coire Sgreamhach, Beinn  Fhionnlaidh a Sgôr na h-Ulaidh ac un yn mynd cyn belled â Stob a’Choire Odhair a Stob Ghabar yn ardal y Mynydd Du, i’r de o gorsdir Rannoch

Dychwelodd y glaw ar ddydd Iau ond doedd hynny ddim yn rwystr i wyth gael diwrnod gwerth chweil ar Buchaille Etive Mor, gan ddringo’r llwybr serth i gopa Stob Dearg i ddechrau ac yna ymlaen i’r copa sy’n Funro ers 2012, Stob na Broige, ym mhen de-orllewinol y grib. Profwyd y pleser Albannaidd o orfod croesi Afon (di-bont) Coupall ar y ffordd nol, a llwyddo gyda thraed gwlyb ond heb i neb syrthio i’r dŵr! Crwydrodd eraill i amrywiol lefydd, amryw cyn belled ag Ynys Skye ac eraill i ddringo dan do yn Kinlochleven neu i ymweld â Chanolfan Glencoe (canmoliaeth uchel).

Gyda darogan mwy o law ar ddydd Gwener, bu hen lwytho ar y ceir ben bore wedi i’r mwyafrif benderfynu troi am adref gyda’r gweddill am wneud y mwyaf o’u gwyliau a chael diwrnod arall (di-fynydd) yn yr Alban.

Mae pawb yn ddiolchgar dros ben i Gareth Everett am drefnu a chael gafael ar le aros gwerth chweil yng nghabanau Inchree. Hen dro bod annwyd drwg a thynnu cyhyr wedi llesteirio ambell un – adferiad buan i chi oll. Beryg’ bod teithiau diwedd Mai i’r Alban yn draddodiad bellach – lle’r awn ni yn 2020?

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR
Lluniau gan Dwynwen o'r Aonach Eagach Meall Dearg Sgorr nam Fiannaidh ar Relive
Lluniau Cylchdaith y Dair Chwaer - gan Sioned Llew ar Facebook


Teithiau ar y West Highland Way 26, 27 a 28 o Fai 2019

Roedd rhai ohonom eisiau gwneud teithiau llai heriol, ond eto yn cael cerdded yng nganol y mynyddoedd a mwynhau,r golygfeydd godidog, felly’r West Highland Way amdani. Dim ond tri ohonom, sef, Gwyn (Chwilog), Iolyn a minnau, gerddodd y tri darn, a ni oedd yr unig rai i fentro ar y diwrnod cyntaf oedd yn ddiwrnod gwlyb iawn. Ymunodd Anet, Gwen Evans (Chwilog) a Dafydd Jones gyda ni am y deuddydd canlynol ac ymunodd John Parry a Tegwyn gyda ni ar yr eilddydd yn unig.

Bridge of Orchy i Kingshouse (12 milltir gyda 350 metr o godi)
Roedd yna gawodydd a glaw mân yn y bore ond erbyn y pnawn roedd y glaw yn fwy cyson. Yn gyntaf roedd yn rhaid i ni ddal y bws o Westy Kingshouse i Bridge of Orchy ac wedi disgyn o’r bws, croesi’r bont i ochr arall yr afon i ddringo i fyny trwy’r coed am sbel, cyn dod lawr yr ochr arall i Loch Tulla. Ymlaen wedyn ar hyd ffordd a adeiladwyd gan Telford i fyny am Rannoch Moor sydd yn ardal uchel, anial a gwlyb. Mae’r llwybr ymhell o’r ffordd fawr am filltirodd cyn yn raddol nesau a chroesi’r ffordd fawr ger mynedfa’r lle sgio. Yna i lawr am Westy Kingshouse lle roedd panad dda cyn mynd yn ôl i Inchree.

Lluniau o'r daith yma gan Eirlys ar FLICKR

Kingshouse i Kinlochleven (9 milltir gyda 425m o godi)
Yn wahanol i’r diwrnod cynt, roedd yn ddiwrnod braf a chlir iawn. Dechreuodd y diwrnod gydag wyth ohonom yn disgwyl am fws i Westy Kingshouse, ond pan ddaeth, ni arafodd ddim dim ond gwibio heibio ar ei ffordd. Diolch i un o drigolion Inchree am ffonio am dacsi ar ein rhan a chyn bo hir daeth y tacsi i gludo’r wyth ohonom i ddechrau ein taith.

Mae’r llwybr, oedd yn hen ffordd filwrol, yn dechrau yn weddol wastad ac yn rhedeg uwchben y ffordd fawr (A82), gyda’r anferthol fynydd Buachaille Etive Mor ar ein chwith. Braf oedd cael gadael sŵn y ffordd fawr a dringo ar i fyny am yr enwog “Devil’s Staircase”, sef y darn sy’n ymlwybro’n igam-ogam i fyny i ben y grib. Wedi cyrraedd y copa, roedd golygfeydd bendigedig o fynyddoedd Mamore ac eraill, ac roedd Ben Nevis ei hun i’w weld yn y pellter.

Ar ôl egwyl i gael cinio a mwynhau’r golygfeydd, roedd yn amser dechrau ar ein taith hir a graddol i lawr am Kinlochleven. Ar y ffordd i lawr daeth dyn ar feic i’n cyfarfod oedd yn dod o Flaenau Ffestiniog. Roedd y golygfeydd yn wych ar y ffordd i lawr. Yn ogystal â gweld y mynyddoedd hardd gwelsom  gronfa ddŵr anferthol Blackwater a grewyd er mwyn cynhyrchu trydan ar gyfer y gwaith alwminiwm yn Kinlochleven, ond sydd bellach wedi cau. Wrth nesáu at y dref, mae’n rhaid i ni gerdded lawr wrth ochr y chwe pheipen anferthol sy’n cludo dŵr i’r pwerdy islaw.

Aeth pedwar yn ôl yng nghar John oedd wedi ei barcio yn Kinlochleven, ac yna daeth Iolyn yn ôl yn ei gar ef i nôl y pedwar oedd yn weddill, oedd erbyn hyn wedi cael paned yn yr hen adeilad lle roedd y gwaith aliminiwm gynt ond sydd bellach yn ganolfan ddringo dan do.

Lluniau o'r daith yma gan Eirlys ar FLICKR

Kinlochleven i Fort William (15 milltir gyda chodiad o 735 metr)
Roedd hwn eto yn ddiwrnod braf a chlir iawn. Teithiodd y chwech ohonom i Kinlochleven mewn tacsi. Wedi croesi’r bont yn Kinlochleven, mae’r llwybr yn araf godi yn y coed yn gyfochrog â Loch Leven islaw. Pan oedd agoriad byr rhwng y coed gellid gweld Sgorr na Ciche (Pap o Glencoe) yn sefyll yn uchel uwchben y cwm. Ar ôl y codi, gwelwyd ehangder y cwm o’n blaenau, a chyn bo hir roeddem wedi colli golwg ar Loch Leven ac roedd mynyddoedd ar y ddwy ochr i ni. Does neb yn byw yn y cwm mwyach ac mae’r unig adeiladau bellach yn furddunod, a chawsom ginio wrth un ohonynt. Wedyn roeddem yn cerdded trwy ardal oedd yn perthyn i’r goedwigaeth, un darn lle roedd coed newydd wedi eu plannu a darn arall lle roedd coed wedi eu cynhaeafu.

Ar ôl cyrraedd Lundavra, gadawsom yr hen ffordd am lwybr hynod o ddymunol, oedd yn mynd â ni i gyfeiriad Glen Nevis. Ac wedi i ni ddod i’r coed roedd yn braf gweld mai coed collddail oeddent, gyda llawer mwy o fywyd gwyllt o gwmpas. Cyn hir daeth Ben Nevis i’r golwg fel cawr o’n blaenau a heb gwmwl ar ei ben o gwbl. Daeth y llwybr hyfryd hwn i ben wedi dringfa fechan i gyrraedd ffordd coedwigaeth.

Wedi ychydig mwy o ddringo daeth Glen Nevis a Fort William i’r golwg ac roedd opsiwn i wyro oddi ar y llwybr am lwybr oedd yn arwain at Gaer Dun Deardail, a fi oedd yr unig un wnaeth wneud yr ymdrech. Ond roedd yn werth yr ymdrech, gan fod y golygfeydd o Glen Nevis yn wych.

Wedi ymuno yn ôl gyda ffordd y goedwigaeth, roedd gwaith cerdded i lawr yn raddol, nes cyrraedd llwybr oedd yn troi i’r dde. Daeth y llwybr allan i’r ffordd fawr sy’n arwain i Fort William o Glen Nevis, a rhaid oedd cerdded ochr y ffordd yma i gyrraedd canol Fort William lle cafwyd diod/ paned cyn i ni gyd ddal y bws am Inchree.

Lluniau o'r daith yma gan Eirlys ar FLICKR

Adroddiad gan Eirlys