HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Glenfeshie 24 Chwefror i 3 Mawrth


Y llynedd cafwyd gwyntoedd cryfion a gormod o eira diweddar a meddal a oedd yn gwneud cerdded drwyddo’n llafurus yn ystod wythnos y clwb yn yr Alban. Yn 2019 cafwyd tywydd rhagorol gyda dim ond ychydig o olion eira yn aros mewn hafnau uchel ac yng nghysgod ambell lechwedd. Ni fu’n rhaid defnyddio cramponau na chaib rew ac roedd haul braf ac awyr glir yn hwyluso llawer ar gerdded eangderau’r An Monadh Ruadh (y mynyddoedd cochion) neu’r Cairngorm a chafwyd wythnos wych o fynydda a chymdeithasu hwyliog.

Mentrodd 14 ohonom tua’r gogledd a chafwyd fod Hostel Glenfeshie, ger pentref Kincraig, yn ganolfan ddymunol a hwylus dros ben ac er nad oedd ond prin le i dri yn y gegin yr un pryd, roedd hynny’n esgus da dros fwyta allan a chael croeso mawr (dim ond yn ni oedd yno rhai nosweithiau!) yng nghanolfan Gweithgareddau Dŵr Loch Insch, rhyw dair milltir lawr y ffordd. Ac oherwydd y ddiffyg eira, roedd golwg llwm a thrist ar lechweddau sgïo Cairngorm a’r effaith economaidd ar yr ardal yn un sylweddol iawn.

Cyrhaeddwyd ar y Sul a phawb i’w gweld wedi prynu papur newydd ar y ffordd i fyny i ymfalchïo yn llwyddiant Cymru’n curo Lloegr o 21 – 13 y diwrnod cynt!

Ar y dydd Llun, arhosodd Maldwyn, George, Raymond, Chris, Stephen a Gareth Everett yng Nglenfeshie gan anelu am y ddau gopa Munro agosaf (ond taith hir serch hynny!) sef Sgor Gaoith a Mullach Clach a’Bhlair. Teithiodd Arwel a Dylan tua’r de i ardal Pitlochry a llwyddo i gyrraedd tri chopa cylch Beinn a’Ghlo – Carn nan Gabhar, Braigh Coire Chruin-Bhalgain a Carn Liath. I faes parcio canolfan sgïo Cairngorm yr aeth Eirwen ac Alun, Hywel W. a Hywel E. a Gareth Wyn ac Eryl i sgrialu i fyny crib Fiacaill gyda sgramblo gradd 1/2 gwych mewn lleoliad trawiadol cyn mynd ymlaen i gopa llwm Cairn Gorm.

Bydd y rhai sy’n cofio darllen adroddiadau’r blynyddoedd diweddar yn gwybod bod rhai’n hoffi mynd ei ffordd eu hunain; rhywbeth i’w wneud a thicio’r Munros mae’n siŵr! Ar ddydd Mawrth felly gwelwyd Arwel a Dylan yn teithio ar hyd yr A9 unwaith eto ond dim ond cyn belled â Bwlch Drumochter y tro hwn i ddringo’r pedwar copa i’r gorllewin ohono – Geal Charn, A’Mharconaich, Beinn Udlamain a Sgairneach Mhor. Arhosodd y gweddill yng Nglenfeshie, gyda’r ddau Hywel yn mynd am Sgôr Gaoith a’r gweddill gyda thaith hir o’u blaenau i gopaon Monadh Mor a Beinn Bhrotain. Aeth Raymond, Stephen, Chris, Gareth E. ac Eryl ymlaen i gynnwys copaon Pidyn y Diafol, Cairn Toul a Sgôr an Lochan Uaine (Copa’r Angel) i wneud diwrnod a hanner ohoni – taith o 26 milltir ac 8,000’ o esgyn mewn 12 awr a chwarter.

A’r tywydd braf yn parhau, teithiodd Stephen, Chris, y ddau Gareth, Raymond ac Eryl i faes parcio Cairngorm unwaith eto ar ddydd Mercher gyda’r rhai na wnaeth y Fiacaill eisoes yn mynd dros y grib a’r gweddill yn cymryd llwybr mwy uniongyrchol cyn disgyn yn serth a dod ynghyd ger Loch A’an (Avon) – Calon y Monadh Ruadh yn ôl rhai a lleoliad anghysbell a hynod drawiadol yn sicr ddigon. Rhaid oedd esgyn wedyn i ddringo Beinn Mheadhaoin cyn dychwelyd at Loch A’an a chymryd llwybr gwahanol i’r bore yn ôl at y ceir.

Yn ystod y dydd, gwelwyd rhai’n dringo mewn hafn yn uchel uwch ben Loch A’an a chael ar ddeall wedi cyrraedd nol i’r hostel mai’r ddau Hywel a’u tywysydd oeddynt; cyfanswm oedran o dros 190 mlynedd rhyngddynt meddan nhw! I’r gorllewin ar hyd yr A86 yr aeth Arwel a Dylan tua Loch Laggan i fachu dau gopa, Beinn a’Chaorainn a Beinn Teallach gyda’r gweddill yn beicio neu gerdded yn fwy lleol.

Ddydd Iau teithiodd A + D ar hyd yr A9 unwaith eto, i Blair Atholl cyn beicio i fyny cwm hir iawn i gyrraedd copa anghysbell Beinn Dearg a Raymond yn defnyddio’r un dacteg i gopa Carn a’Chlamain ym mhen uchaf cwm cyfagos. Ar eu beiciau yr aeth dau hen ddyn o Benmachno hefyd ond dim ond lawr dyffryn Spey o Glenfeshie i Nethy Bridge ac yn ôl. Trodd y gweddill eu golygon at un o feysydd parcio Cairngorm cyn cerdded drwy hafn gul Chalamain i’r Lairig Ghru, y bwlch enwog sy’n gwahanu ail a thrydydd mynydd uchaf yr Alban, Ben Macdui (1309 m) a Braeriach (1296 m). Aeth rhai am gopa Braeriach ac eraill yn cerdded i ben y bwlch at lynnoedd bychain, Pyllau Dee.

Mae parcio canol Cairngorm oedd cyrchfan y rhan fwyaf ar ddydd Gwener gyda Bynack More yn nôd. Cymerwyd trywydd uniongyrchol (methwyd â chanfod y llwybr) tua’r dwyrain dros y gefnen o goed grug cyn disgyn i Strath Nethy a gwaith dringo blinderus eto trwy ragor o rug i Bynack Beg ac ymlaen i gopa’r Mawr. Gwahanwyd yno’n ddau griw; rhai’n mynd i’r de-orllewin dros A’Choinneach i’r bwlch (y Saddle) uwch Loch A’an ac yn ôl i fyny dros lechweddau Gairn Gorm ac eraill yn cymryd y llwybr hir ond haws tua’r gogledd a heibio Stablau Bynack (nad ydynt yn bod!) i ganolfan Glenmore Lodge. Daeth y dydd i ben gyda phawb ynghyd i fwynhau diod haeddiannol ger glannau Lloch Morlich.

Gydag addewid o’r tywydd yn gwaethygu a neb ag awydd gwlychu wedi pum diwrnod heb dropyn o law, trodd pawb ond un eu golygon tua Chymru ar y Sadwrn – roedd Arwel yn aros i gwrdd â chyfeillion i fwynhau (gobeithio) rhagor o fynydda!

Wythnos lwyddiannus dros ben a llawer iawn o ddiolch i Maldwyn am drefnu ar ein cyfer unwaith yn rhagor. Dim ond edrych ymlaen at Chwefror 2020 rŵan!

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Hywel Watkin, Stephen Williams, Alun Hughes ac Eirwen Williams ar FLICKR