Pedol Cwm Llan 3 Hydref
Cyfnod cloi lleol yng Nghonwy yn newid niferoedd y daith hon yn eithaf cyflym a gostwng o 12 i 7. Rhagolygon tywydd ddifrifol yn gweld un neu ddau arall yn tynnu allan ac felly y bu 5 ohonom gwrdd ar fore tywyll a chymylog ym Methania gyda rhybudd tywydd Ambr yn ystod yr awr neu ddwy nesaf. Trystan, Dylan, Chris, Emlyn a fi yn cychwyn fyny Llwybr y Watkin.
Enwyd y llwybr ar ôl Syr Edward Watkin, Aelod Seneddol ac entrepreneur rheilffordd a greodd lwybr o'r chwarel lechi i gopa'r Wyddfa. Hwn oedd y llwybr cerdded cyntaf ym Mhrydain. Fe’i agorwyd ym 1892 gan y Prif Weinidog William Gladstone a anerchodd dorf o dros 2000 o bobl o graig ar ochr y llwybr, a elwir heddiw yn "Gladstone Rock". Roedd yn braf cael 3 aelod cymharol newydd o'r clwb gyda ni ar ddiwrnod mor heriol. Cytunwyd bod y nod o gwblhau'r cynllun gwreiddiol angen i ni fod yn feddwl agored ond mi oedd cychwyn y daith yn rhoi rhyw deimlad na fyddai hynny'n broblem.
Fe gyrhaeddon argae hydro yr ymddiriedolaeth genedlaethol ar afon Cwm Llan ble mae angen gadael llwybr watkin i ddringo'n serth tuag at y pyllau copr o dan yr Aran. Mae'r argae bach hwn yn rhoi digon o egni i'r ymddiriedolaeth bweru ei holl eiddo yng Nghymru. Fel oeddwn yn cychwyn y ddringfa serth fe gyrhaeddodd y glaw. Ni wnaeth pethau newid o'r pwynt hwn ymlaen.
Ar ôl stopio am banad yn y pyllau copr fe aethom ymlaen mewn cyfeiriad gorllewinol yng nghysgod Cwm Llan cyn cyrraedd y grib i wyntoedd ffyrnig gogleddol. Wrth i ni ddringo'n uwch, roedd y gwyntoedd a'r glaw yn heriol ac erbyn i ni gyrraedd copa'r Aran mi oedd yn amlwg bod angen ail ystyried pethau. Wrth ostwng yn ofalus i Fwlch Cwm Llan dros gerrig llithrig doedd dim yn awgrymu bod diwrnod hir yn syniad da.
Wrth i ni ddisgyn i Cwm Llan a chyrraedd yn ôl ar Lwybr y Watkin ni fyddai wedi bod yn anodd meddwl parhau â'n cynllun gwreiddiol gyda tywydd llawer tawelach ond mi oedd angen ystyried yr esgyniad nesaf a'r glaw erbyn hyn yn disgyn yn drwm. Daethom ar draws cwpwl oedd yn amlwg yn dadlau ynglŷn â pharhau â’u taith am gopa'r Wyddfa. Penderfynu ar y cyd y byddai cario ymlaen yn heriol.
Brechdan o dan y coed connifer Plas Cwm Llan lawer mwy deniadol. Wrth i ni fwynhau cinio sych a gwylio'r byd yn mynd heibio fe ddaeth rhywun heibio mewn crys t llewys byr, yn socian i’r croen, mewn dillad fel pe bai ar ei ffordd i'r bar nesaf. Yn sicr pe byddem wedi aros 10 munud yn fwy byddem wedi ei weld eto'n mynd i'r un cyfeiriad â ni!
Bum allan am 4 awr a hanner a cherdded 7 milltir. Dim yn gyflawniad rhy ddrwg ar ddiwrnod pan oedd llawer o Gymru yn dioddef gyda llifogydd. Roedd bod adref yn gynnar yn golygu cyfle prin i gael nap cyn te. Roedd hon i fod i fod yn daith ddiwedd mis Ebrill. Y diwrnod hwnnw, rwy’n cofio eistedd yn yr ardd methu mynd allan am fwy na 20 munud y diwrnod. Adeg hynny mi oedd cael y cyfle i fod allan ar y mynydd mewn unrhyw dywydd yn rhywbeth nad oedd yn bosib am y tro cyntaf i mi mewn 50 mlynedd. Ar ddiwrnod fel ddoe mae llawer i wneud rhywun feddwl bod awyr iach a rhyddid yn rhywbeth na dyliwn gymryd yn ganiataol tydi. Efallai mai hwn fydd y cyfle olaf am beth amser cyn i mi gael mynd eto a bydd angen addasu'r ffordd byddwn yn cael ymarfer corff a mwynhay'r awyr iach. Mi oedd y diwrnod gwreiddiol yn ddiwrnod anfarwol a dwi'n cofio meddwl "busai wedi bod yn berffaith heddiw!"
Bydd cyfleoedd eraill ar ddiwrnodau gwell yn y dyfodol buan gobeithio, gyda criw mawr ar daith fel rydym wedi arfer gael. Am y tro bydd rhaid dod i arfer i rhyw "normal newydd". Fe ddaw eto haul ar fryn!
Adroddiad gan Stephen Williams
Lluniau gan Stephen Williams ar FLICKR