HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ro-Wen o Ddolwyddelan 5 Medi


Daeth deuddeg ynghyd yn Nolwyddelan ar gyfer taith Pedol Cwm Penamnen gyda’r cymylau’n crynhoi uwchben ond cadw draw a wnaethant ar y cyfan a chafwyd diwrnod sych gyda rhai ysbeidiau heulog. Roedd y ddwy filltir a hanner cyntaf ar i fyny ond, wedi’r rhannau cyntaf, heb fod yn rhy serth ac ar hyd ffordd drol oedd yn hwyluso’r cerdded. Treuliwyd hanner awr ar gopa Ro-wen yn mwynhau cinio a’r golygfeydd eang. Er fod y copa’n brin o 2,000’, sydd yn draddodiadol yn dynodi’r trothwy o fod yn fynydd, mae’n cyrraedd 1950’ a chawsom weld cyn belled â Bryniau Clwyd ym mhell i’r dwyrain, tuag at Arennig Fawr, cip ar yr Aran a Chadair Idris dan gymylau i’r de, yna’r Rhinogydd a’r Moelwynion, ymlaen at Yr Wyddfa, Moel Siabod a chopaon Eryri draw am y Carneddau. Aed ymlaen wedyn o amgylch blaen Cwm Penamnen ac uwchben y coed sydd wedi llenwi’r cwm, ac wedi dringfa fach i fyny Moel Fras roedd hi ar i lawr wedyn. Dilynwyd y llwybr serth i lawr y cwm gerllaw Gwyndy Newydd ac yna’r ffordd yn ôl i’r man cychwyn.

Ger y ffordd honno, gwelwyd olion Tai Penamnen. Bu criw o wirfoddolwyr yn cloddio yno dan arweiniad y diweddar Bill Jones o Flaenau Ffestiniog, archaeolegydd brwdfrydig a gwybodus a gyflawnodd waith rhagorol yno ac ar sawl safle arall. Dyma gartref Maredudd ab Ieuan a symudodd i’r fro o Eifionydd ddiwedd y 15fed ganrif wedi iddo gymryd y les ar gastell Dolwyddelan. Ei fab adeiladodd Gastell Gwydir ger Llanrwst ac roedd Maredudd yn hen-daid i Syr John Wynn, yr enwocaf o deulu Gwydir. Dywedir fod Maredudd yn dad i 27 o blant o dair gwraig a phedair gordderchwraig felly does ryfedd i’r bardd, Lewis Daron, wrth gyfeirio atynt ddweud, eu ‘Henwi oll hyn ni allaf’.

Tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, symudodd Angharad James o Ddyffryn Nantlle yn ugain oed i ffarmio yno a phriododd yr hwsmon, William Pritchard, a oedd ddeugain mlynedd yn hŷn na hi. Roedd yn hyddysg mewn Lladin a’r gyfraith, byddai’n canu’r delyn tra byddai ei morwynion yn godro allan yn yr haf ar lecyn sy’n cael ei alw’n Glwt y Ddawns o hyd ac mae hi’n un o’r beirdd benywaidd cynharaf y mae casgliad go lew o’i cherddi ar gael.

Cafwyd cwmni Eirlys ac Iolyn, Morfudd a Hefin, Gaenor, Dilys, Anne, Jane, Gwynfor, Llinos ac Angharad.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Morfudd ac Anne ar FLICKR