Y Carneddau 5 Medi
Daeth 12 ohonom i gerdded y Carneddau, o safle parcio ar hen domen chwarel Pantdreiniog, fel rheol, mae golygfa bendigedig or daith ar y safle hon, ond y bore yma roedd blanced trwchus o niwl yn gorchuddio'r Carneddau at ei traed. Gyda'r rhagolygon yn gaddo cawodydd trwm,. i ffwrdd a ni drwy strydoedd Carneddi a Gerlan. Erbyn cyraedd Afon Cenllusg, mi roedd y niwl wedi codi ac yr oedd y ffordd o'n blaen i fynu Mynydd Du a foel Meirch mewn golwg, cawsom olygfeudd godidog o Foel Meirch ac yr oedd gobaith ei bod am aros yn sych.
Ymlaen ir niwl ac i gopa Carnedd Dafydd am ginio, wedyn Cefn Ysgolion Duon a Bwlch Cyfryw Drum gyda golygfeudd o Gwm Pen LLafar a Cwm Llugwy, cyn dringo ir man uchaf or daith sef Carnedd Llewelyn, paned sydyn yma, cyn mentro am Yr Elen, ac yna allan or niwl ir gola a lawr Foel Ganol a Braich y Brysgyll i Gors Gwaun y Gwiail a Gwernydd. Erbyn cyrraedd y man cychwyn mi roedd y niwl wedi diflanu ac mi gawsom weld y Carneddau yn ei gogoniant. Penderfynwyd tori sychad gyda peint yn ardd gwrw y Douglas ym Methesda.
Diolch yn fawr iawn i Richard Roberts, Elin ac Emyr, Gwyn Roberts, Emlyn Evans, Dylan Evans, Tegwen Williams, Arianell, Steve Williams, Keith Roberts a Iolo Roberts am ei cwpeini ac hefyd diolch yn fawr iawn i Steve am gefnogi.
Adroddiad gan Chris Humphreys
Lluniau gan Stephen ar FLICKR