HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Llangatwg 5 Rhagfyr


Cwrddodd 4 ohonon ni ym maes parcio Crughywel ar fore wlyb ac oer – un ohononynt dim hyd yn oed yn aelod o’r Clwb – fy ffrind, Dafydd, oedd i fod i arwain ail grwp rhag ofn basai ormod o bobl! Criw bach felly, ond un dethol. Tipyn gwahanol eleni i’r blynyddoedd diwethaf ble roedd criw da ohonom yn cyfarfod am ginio Nadolig yn y Bear yn dilyn y daith. O wel. Dyna ni – Ymlaen i 2021!

Fel gwobr am ein dewder, ciliodd y glaw yn gynt na’r disgwyl ar ôl hanner awr o gerdded gan adael diwrnod oer ond digon braf. Codon ni trwy bentref LLangatwg at y gamlas, heibio i sawl tytysgrif i orffenol diwydiannol yr ardal, megis odynau calch, cyn troi tua Mynydd LLangatwg a’r hen chwareli uwch ein pennau. Ar ôl pasio hen fynwent cholera a chodi trwy’r caeau ddaethon ni at bentref bach oedd yn arfer bod yn gartref i’r chwarelwyr. Ymlaen a ni, gyda bach o eira dan ein traed nawr, heibio i’r chwareli calchfaen a sawl ‘sink hole’ i ben y mynydd, sef Twr Pen Cyrn (529 m) gyda’i gernydd oes efydd ac olion cytiau crwn. Dros y rhostir wedyn i Graig y Disgwylfa (The Lonely Shepherd) – piler o galchfaen tua 6 medr o uchder, sy i fod i gerdded lawer i’r afon ar Wyl Ifan i gael diod.

Ar ol cinio cyflym yng nhysgod y gwynt, dilynnon ni un o’r hen dramffyrdd ar hyd y chwareli am ryw awren heibio i sawl mynedfa i’r system enfawr o ogofau sy’n cuddio o dan y Cymoedd. Golygfeydd hyfryd dros Grughywel i’r Mynyddoedd Duon ar ochr arall y cwm (lle oedd yr haul yn twynnu!). I lawr a ni wedyn ar hyd lwybrau cul a llithrig i Nant Onneu, cyn dilyn y dŵr yn ôl tua phentref Llangatwg.

Cyrraeddon ni Crughywel ar ol 5 awr 45 munud – bach yn hirach na’r disgwyl ond oedd y daith bach yn hirach nac o’n amcangyfrif, ac wedi’r cwbl mae Bruce yn mynd yn hen. Gaeth tri ohonon ni Swper Nadolig ysblennydd yng nghaffi Latte Da – siocled poeth (a mince pies i rai). Y newyddion da yw, gan fod cyn lleied wedi mwynhau’r profiad, mod i’n gallu gwneud yr un daith to flwyddyn nesa!

Adroddiad gan Rich Michley.

Lluniau gan Dewi ar FLICKR