HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Diffwys a Llethr 8 Chwefror


14 o aelodau yn cyfarfod yng Nghwm Mynach ar fore sych, gweddol heulog, gyda Storm Ciara ar ei ffordd. Eitha cysgodol yr holl ffordd i fyny i'r grib, yna'r gwynt yn cryfhau rhywfaint a'r cymylau yn gostwng erbyn cyrraedd copa Diffwys. Ar hyd Crib y Rhiw ac yna i'r Llethr gyda'r gwynt i'n cefna' yna disgyn lawr tua Bwlch Llyn Hywel i gael cinio sydyn. Lawr at Lyn y Bi a Chwarel Cefn Cam ac yn ol i Gwm Mynach ar hyd amrywiol ffyrdd...
Pawb am adra cyn i Ciara gynddeiriogi go iawn.

Dylan Huw, Morfudd, Elen, Eirwen, Alun, Dwynwen, Iolyn, Leusa, Gwyn (Chwilog), Gwen E, John Arthur, Gwyn (Maesgadfa), Gareth Wyn a Myfyr.

Diolch i bawb. Diwrnod da.

Adroddiad gan Myfyr.

Lluniau gan Myfyr, Gwyn a Morfudd ar FLICKR