HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arfordir Eifionydd a’r Lôn Goed 11 Tachwedd


Taith yng nghornel dde orllewinol Eifionydd "y fro rhwng môr a mynydd" oedd hon.

Cychwyn wrth gapel Bryn Bachau ger Hafan y Môr a cherdded heibio gorsaf drên Penychain, fferm Penychain i drwyn y penrhyn. 'Roedd y tywydd braidd yn gyfnewidiol ac nid oedd y golygfeydd o'r Rhiniogydd ac Eryri cystal ag arfer. 'Roedd yr olygfa ar hyd lan môr Abererch draw i Bwllheli a Llŷn yn glir. Nid i'r cyfeiriad yma yr aethom ni, ond ar hyd rhan o lwybr yr arfordir tuag at Afon Wen. Croesi honno, dilyn y traeth wedyn sy'n gyfochrog a rheilffordd yr arfordir am dros filltir nes cyrraedd Tŷ'n y Morfa. Treulio ychydig o amser wrth Afon Dwyfor cyn cerdded ar hyd y morglawdd ar hyd ei glannau i Bont Fechan a chael cinio yno. Croesi'r ffordd fawr wedyn a dilyn y llwybr heibio'r Glyn at y bont droed a thros afon Dwyfach . Cerdded ychydig ar y ffordd fach at bont Talhenbont. 'Roedd lliwiau’r dail hydrefol yn hyfryd yn y ceunant yma, cyrraedd y Lôn Goed ger Hidiart a cherdded ar ei hyd heibio hen gapel Engedi yn ôl i’w phen yn Afon Wen. Yna y llwybyr beics yn ôl at y ceir.

Cafwyd paned cyn ffarwelio.

Yr "eneidiau hoff cytûn" oedd ar y daith yma oedd Rhiannon HJ, Nia Wyn (Seion), Gareth Tilsley, Ellis, Haf, Anet, Linda, Nia Wyn (Llanfairpwll), Mags,  Winnie a finnau.

Bydd ail gyfle i wneud y daith ar Tachwedd 25 hefo 12 arall. Ymddiheuriadau am nad oes lle i rai eraill oedd am ymuno hefyd.

Adroddiad gan Gwyn Williams (Chwilog)

Lluniau gan Gwyn ag Anet ar FLICKR