Moel Siabod o Nantgwynant 12 Ionawr
Cyfarfu 20 o gerddwyr brwd — rhai ohonyn nhw’n flaswyr a rhai’n aelodau newydd — ar lan Llyn Gwynant ychydig funudau’n unig wedi cyfnod o law trwm beidio. Cafwyd diwrnod sych ar y cyfan er ei bod yn hynod o wlyb dan draed.
Yn gyntaf, cerdded ar hyd y lôn gul at ffermdy Hafod Rhisgl lle clywsom hanes y teuluoedd a oedd wedi ymsefydlu dros ddwy ganrif a’u perthynas hwy â thylwythau eraill yn ardaloedd Rhyd-ddu a Dolwyddelan. Mae’r hen ffermdy, erbyn hyn, yn dŷ haf!
Cychwyn y ddringfa ar hyd yr hen lwybr sy’n cysylltu Nant Gwynant â Dyffryn Lledr a cherdded i Fwlch y Rhediad ac ymlaen i Fwlch Maen Pig, lle cafwyd y baned gyntaf. Ymlaen wedyn i gyfeiriad Carnedd y Cribau gyda llethrau Gallt-y-Wenallt a Bwlch Llanberis yn edrych yn ddramatig oherwydd yr amodau cyfnewidiol.
Tynfa go hir wedyn i fyny’r ffridd at gopa Moel Gîd gyda Llynau Diwaunedd i’w gweld oddi tanom. Tymhestlog dros ben oedd copa Moel Siabod wrth i rai dynnu lluniau ac eraill fwynhau paned yn y lloches.
Mwynhawyd golygfeydd hyfryd o’r Glyderau a’r Carneddau wrth gerdded i lawr y llwybr — a oedd wedi troi’n nant fyrlymus — i gyfeiriad Plas y Brenin lle roedd paned neu beint yn ein disgwyl.
Y cerddwyr oedd: Morfudd (arweinydd) a Hefin; Sandra ac Arianell Parry; Morfudd Richards; Paula a Gwyn; Sioned; Sw a Richard; Alice; Buddug; Dilys ac Aneurin; Keith, Dylan; Trystan; Cemlyn; Ann; Robat.
Adroddiad gan Richard Roberts.
Lluniau gan Richard, Morfudd (R), Morfudd (Th), Anne ag Aneurin ar FLICKR