HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Mynyddoedd Duon 12 Medi


Braf oedd gweld criw bach o aelodau yn ymgynyll ym maes parcio ger yr heol o Gapel y Ffin i’r Gelligandryll. Dyma’r tro cyntaf i ni gyfarfod ers Mis Mawrth o achos cyfyngiadau y clefyd Covid19.

Gan ddilyn llwybr cyhoeddus o dan gysgod Penybegwn i’r De orllewin dyma grwydro i lawr y cwm tuag at Caemarchog. Roedd y daith am y ddwy awr nesaf yn dilyn llwybrau gymharol hawdd i ddilyn dros dirwedd corsog o bryd i’w gilydd.

Uchafbwynt y bore oedd cael y cyfle i rai ohonom gasglu madarch!

Y dilyn paned dyma gyrraedd safle tomen gladdu uwchben cwm Cwnstab. Hyfryd oedd medru rhyfeddu ar harddwch yr olygfa ar ddiwrnod mor braf. Draw yn y pellter roedd copa Pen y Fan i weld yn glir. Roedd angen dringo  am tua hanner awr i gyrraedd  y bwlch yn arwain i gopa y Das ar uchder o 713m. Dyma gerdded wedyn ar hyd y grib tuag at gopa Twmpa.

Wedi cinio a seibiant gan fanteisio i fwynhau y golygfeydd megis Darren Lwyd, Tarren yr Esgog a chronfa ddwr Grwyne Fawr, dyma barhau a rhyd y grib tuag at Penybegwn. I gyrraedd, roedd rhaid colli rhyfaint o uchder gan groesi yr heol fawr cyn dringo i’r copa.

Lawr a ni tuag at y maes parcio wedi cwbwlhau 11 milltir o daith.

Diwrnod bendigedig mewn cwmni difyr.

Adroddiad gan Dewi

Lluniau gan Dewi ar FLICKR