Crianlarich 15–22 Chwefror
Gwynt, glaw, eira a mwy o wynt; dyna fyddai’r crynodeb byr o daith aeaf y clwb i’r Alban eleni – a’r gwynt yn cael y llaw drechaf sawl diwrnod. Ond, er gwaethaf yr amgylchiadau anffafriol, cafwyd wythnos dda o fynydda ac o gymdeithasu a phawb yn hapus i fwynhau moethusrwydd a chroeso’r Crianlarich Hotel wedi diwrnod caled ar y mynydd.
Dydd Sul, 16 Chwefror
Alun, Richard a Sue yn cychwyn o’r gwesty ar hyd y West Highland Way i gyfeiriad y de. Aeth pawb arall a oedd wedi teithio i fyny ar y Sadwrn – Gareth Everett, Stephen, Chris, Garri, Eirwen, Curon a Maldwyn – am Beinn Chabhair, gan gychwyn o Derrydaroch yn Glen Falloch, ond Dafydd yn penderfynu aros am y tri arall gan gerdded i’w cyfarfod ar y WHW!
Dilynwyd y lôn heidro ger yr Allt a’ Chuillinn am 2 gilometr at argae a gored yr heidro. Gadael y ffordd ac i fyny’n serth at grib Meall nan Tarmachan ar eira meddal - y gwynt yn ein taro ar y grib ac yn rhewllyd dan draed yr holl ffordd i’r copa - hyrddiadau cryf yn ein gorfodi i gysgodi a dianc lawr ar eira meddal i’r bwlch o dan An Caisteal. Penderfynwyd peidio mynd ymlaen am ei gopa gan nad oedd, ar y fath ddiwrnod, dim modd goresgyn waliau’r castell hwn! Felly dilyn Coire a’ Chuillinn yn ôl at yr argae a Derrydaroch amdani.
Tic i bawb ond Maldwyn.
Dydd Llun, 17 Chwefror
Yn ôl ar hyd yr A82 a chychwyn o gilfan cyn Derrydaroch, dan y rheilffordd a dilyn lôn heidro arall ger yr afon Falloch i’w therfyn, gyda’r bwriad o gyrraedd copa An Caisteal. I fyny’n serth at grib Twistin Hill ar eira meddal gan sylweddoli ei bod yn wyntog iawn yn uwch i fyny. Dilyn y grib am tua cilometr - Richard, Sue a Dafydd yn troi’n ôl - y gweddill yn cario mlaen am ychydig ond y gwynt cryf yn ein gorfodi ninnau i droi’n ôl hefyd! Lawr yr un ffordd i’r dyffryn.
Teithiodd Dylan Huw, Iolo, Eirwen, Alun, Gareth Wyn ac Eryl ymhellach i gyffiniau pentref Arrochar, sy’n rhoi ei enw i fynyddoedd yr ardal, Alpau Arrochar. Roedd y mynyddoedd hyn yn boblogaidd iawn gan ddringwyr dosbarth gweithiol Glasgow wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, gan agor pennod newydd yn hanes mynydda ym Mhrydain. Llwyddwyd i ddringo Beinn Nairnain yn eithaf rhwydd ac aed ymlaen i fwlch Bealach a’Mhaim gyda’r bwriad o gipio ail gopa, Beinn Imme. Ond gyda’r tywydd yn gwaethygu, bu’n rhaid troi nol er eu bod o fewn rhyw bum munud (ar ddiwrnod braf beth bynnag) o’r copa.
Dydd Mawrth, 18 Chwefror
Un criw mawr yn mynd i’r dwyrain am Killin a Glen Lochay i chwilio am gysgod o’r gwynt a rhyw hanner obeithio am ddau gopa – Creag Mhor a Beinn Sheasgarnaich. Dilynwyd y dyffryn i’r man parcio ger fferm Kenknock. I fyny’r lôn heidro sy’n dringo dros y gefnen am Glen Lyon a’i gadael ar uchder o 360 metr a dilyn lôn heidro arall am 5 cilometr ar hyd ochr y dyffryn a’i gadael uwchben hen ffermdy Batavaime.
I fyny ar eira meddal i gyfeiriad crib Sron nan Eun a Creag Mhor. Yr eira’n dyfnhau ac yn ein harafu – a’r syniad o ail gopa wedi ei hen anghofio – a dilyn ffens geirw i fyny at waelod y grib. Gadael y ffens ac i fyny’n serth a’r eira wedi caledu erbyn i ni gyrraedd man gwastad, ymgramponu yn y gwynt a oedd wedi cryfhau’n sylweddol erbyn hyn ac ymlaen am ychydig ond sylweddoli’n fuan nad oedd yn bosib cario ymlaen o dan y fath amgylchiadau! Dychwelyd yr un ffordd ond parhau ar i lawr i’r ffordd ar waelod y dyffryn gan ddilyn afon Lochay yn ôl yn y glaw at y ceir.
Rheinallt Hedd wedi ymuno hefo ni ar y daith heddiw.
Dydd Mercher, 19 Chwefror
Y rhan fwyaf yn mentro lawr y ffordd i gyfeiriad Ben More a pharcio ar yr A85 ger fferm Ben More cyn dilyn trac i fyny am y Benmore Glen a’i ddilyn i’w derfyn gan anelu am Stob Binnein sy’n cysgodi tu cefn i Ben More. I fyny’n serth drwy eira meddal gan groesi sawl afonig am fwlch y Bealach-eader-dha-Bheinn. Y gwynt yn cryfhau a’r eira wedi caledu sy’n ein gorfodi i ymgramponu cyn inni gyrraedd y bwlch niwlog. 300 metr o lethrau niwlog, rhewllyd a gwyntog i fyny i’r copa - dim golygfeydd - lawr yn ofalus i’r bwlch a chael paned sydyn cyn syrthio’n ôl drwy eira meddal nôl i’r trac a’r ceir. Tic i bawb ac i Maldwyn.
Aeth pedwar, Dylan, Iolo, Gareth Wyn ac Eryl, i gyfeiriad Loch Lomond gyda’r bwriad o ddringo Ben Vorlich o Ardlui. Wedi croesi tir corsiog a di-lwybr yn is i lawr, cafwyd diwrnod da, gydag amodau gaeaf yn uwch i fyny’r mynydd. Cyrhaeddwyd y copa gogleddol (931 m) ond, oherwydd y gwynt eto fyth, nid y prif gopa (943 m), er nad oes ond 600 metr o bellter rhyngddynt.
Dydd Iau, 20 Chwefror
Dydd Iau oedd y diwrnod gorau o ran rhagolygon y tywydd ac, yn wir, gwelwyd peth haul yn ystod y bore. Felly teithiodd y prif fintai i’r dwyrain i chwilio am gysgod ... lawr am Loch Earn a thrwy St Fillans i Comrie a dilyn ffordd gul i fyny am Invergeldie yn Glen Lednock gan anelu am Ben Chonzie. Awyr las yn ein croesawu ar ddechrau’r daith i fyny trac garw sy’n dringo’n uchel ar ysgwydd y mynydd. Gadael y trac a thrwy eira meddal at olion hen ffens ar grib ddeheuol Chonzie - y gwynt wedi codi a chryfhau erbyn i ni gyrraedd congl amlwg ar y ffens - y gwynt yn chwipio’n oer, ymgramponu, ac ymlaen drwy’r ddrycin i’r copa - aros am ennyd cyn dychwelyd i wynebu’r gwynt ac i lawr yr un ffordd at drac y bore. Diolch i Dylan Huw am ei waith cwmpawd. Paned a chacen yn Comrie ar y ffordd adref. Tic i bawb ond Maldwyn.
Yr un diwrnod, aeth Gareth Wyn ac Eryl tua’r gogledd i feicio i mewn dan draphont y rheilffordd rhwng Tyndrum a Bridge of Orchy i fyny cwm Allt Kinglass i droed Beinn Mhannach a dringo’r llethr serth iawn i’r copa – yn llwyddiannus!
Gan fod y rhagolygon tywydd ar y mynyddoedd ar gyfer ddydd Gwener yn waeth na gweddill yr wythnos, troi am adref wnaeth bron pawb. Llawer o ddiolch i Gareth Everett am wneud y trefniadau a llawer o ddiolch i’r rhai aeth i’r drafferth i dynnu lluniau ac am fod yn barod i’w rhannu.
Dyma’r criw: Gareth Everett, Stephen Williams, Chris Humphreys, Garri Bryn Hughes, Alun Hughes, Eirwen Williams, Dafydd ‘Legal’ Jones, Dylan Huw, Iolo Roberts, Curon Davies, Gareth Wyn, Maldwyn Peris, Sonia Williams, Raymond Wheldon, Richard a Sue Roberts ac Eryl Owain – a chafwyd cwmni Rheinallt ar y dydd Mawrth.
Adroddiad gan Eryl a Maldwyn.
Lluniau gan Eryl ar FLICKR