Ardal Llanfair 16 Medi
Yn ôl cyfyngiadau’r Covid-19, roedd y daith hon yn llawn efo 12 wedi dod draw i Lanfair erbyn 10 y bora – Anet, Gwyn a Linda Chwilog, Gareth Tilsley, Nia Wyn, Rhiannon HJ, Gwyn Llanrwst, Arwyn, Iolo ap a Meic.
Ar ôl mynd heibio Eglwys Llanfair lle mae Ellis Wynne, y Lasynys Fawr, wedi ei gladdu o dan yr allor, ymlaen â ni wedyn i fyny tomenni llechi Chwarel Hen, gan oedi ychydig i edrych ar yr olygfa wych o Fochras oddi tanom, Llandanwg a’r eglwys yn y twyni, Eryri i’r gogledd a Phen Llŷn (yn y niwl môr) tua’r gorllewin.
Heibio fferm Penrallt a Llwyn Hwylcyn, a galw heibio cromlech Gwern Einion a rhyfeddu at faint y garreg capan enfawr. Ar draws y gors gerllaw (heb golli neb!) a dringo’r llwybr igam ogam drwy’r coed uwchben Tan Arllef, a chinio bach cyntaf ar gopa Clogwyn Arllef, ac olion cloddiau’r hen gaer i’w gweld o’n cwmpas.
Ar i lawr wedyn cyn belled â fferm Coed, cyn troi yn ôl tua’r gorllewin drwy Goed Llety, coedwig dderw hyfryd yng ngofal Coed Cadw erbyn hyn, heibio fferm Hafod y Coed, heibio Penrallt Hall urddasol, ac i lawr i fwthyn Tanywenallt, lle ganwyd fy hen daid, Evan Williams. Ymlaen drwy Gae Nest a dilyn y Sarn Hir hyd at harbwr Pensarn. Ail ginio yno yr haul braf ar lan yr Artro, cyn dilyn y clawdd llanw i Landanwg, a galw i weld bedd Siôn Phylip, y bardd, a foddodd wrth ddychwelyd o Lŷn ar daith glera yn 1600, ym mynwent Eglwys Llandanwg, y mae rhannau ohoni’n dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif.
Neb isho panad yng nghaffi (prysur) Llandanwg, felly’n ôl i bentra Llanfair ar hyd llwybr Llwyn, hwylfa rhwng dau glawdd cerrig hynod gyda chen o wahanol liw ar y naill ochr, arwydd o gyfeiriad y tywydd, glendid yr awyr, a faint o haul a geir ar y naill ochr a’r llall.
Diolch i bawb am eu cwmni ac, fel mae pawb yn ei ddeud yn ystod y flwyddyn wahanol iawn yma, ‘byddwch ddiogel’.
Adroddiad gan Haf
Lluniau gan Arwyn, Gareth, Gwyn a Iolo ar FLICKR