HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penmachno 16 Medi


Er bod niwl trwchus yn cuddio’r bryniau o amgylch Penmachno ben bore, ciliodd yn gyflym erbyn deg o’r gloch, i’r eiliad bron ar gyfer amser dechrau’r daith. Cadwodd yn sych drwy’r dydd ond peth cwmwl uchel yn datblygu yn y prynhawn a gormod o dawch i ni fedru gweld copaon Eryri. Ond roedd golygfeydd braf i’w gweld yn nes at ein traed.

Wedi dringo’n serth, cawsom baned hamddenol yn yr heulwen yn edrych i lawr ar ddyffryn Machno ac yna dilyn llwybrau amrywiol drwy Goed Benar a chael seibiant bach arall (di-baned) i edmygu’r olygfa o Ddyffryn Conwy. Troi wedyn tua ffermdy Fedw Deg (lle bu bron i ni golli Elis a oedd yn dangos diddordeb mawr yn yr hen beiriannau yno!) ac i lawr y caeau at hen ffermdy arall, Bwlch y Maen, a chinio. Parhau ar i lawr wedyn a chroesi’r Wybrnant sydd wedi benthyg ei henw i’r cwm bach anghysbell hwn lle ganwyd yr Esgob enwog. Cyn dringo’r rhiwiau serth tuag at Dŷ Mawr, oedwyd ger hen gapel Cyfyng a’i arwydd ‘Ar Werth’; mae ar gael am £330,000! Cynhaliwyd ysgol yn yr adeilad hyd at 1958 pan gaeodd efo rhif y disgyblion i lawr i saith.

Cafwyd pum munud bach arall ger Tŷ Mawr a gresynu o wybod am benderfyniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i beidio penodi curadur yn y dyfodol, sy’n golygu mai dim ond ar gyfer digwyddiadau arbennig y bydd y lle, sydd mor bwysig i ni fel Cymry, yn agored. Gwelwyd fod Tŷ Mawr o fewn ychydig lathenni i’r Wybrnant, sy’n nodi’r ffin rhwng plwyfi Penmachno a Dolwyddelan. Petai’r ochr arall i’r nant, yna pobl Dolwyddelan ac nid Penmachno fyddai’n gallu hawlio William Morgan!

Roedd rhagor o riwiau i’w dringo dros y gefnen ac yn ôl i Benmachno a throi am adref. Cafwyd cwmni Margaret, Gwen a Huw Myrddin o Ynys Môn, Elis o Benllyn, Dafydd o Lanwnda, a chriw mwy lleol – Lis a Mair, Anne a Jane ac Angharad ac Eryl.

Y Fedw Deg
Ger y ffermdy presennol, mae hanner yr hen dŷ – a adeiladwyd yn ôl tystiolaeth dendrocronoleg o ddadansoddi’r blwydd gylchau – yn 1588 neu’n fuan wedyn. Dymchwelwyd yr hanner arall rhyw gan mlynedd yn ôl ac roedd bwriad gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 1947 i chwalu’r gweddill (a oedd yn cael ei ddefnyddio fel cwt ieir!) ond gwrthwynebwyd hynny gan y tenant ar y pryd (gweler lun ohono) a, chyda chefnogaeth Kate Roberts a’r Faner, llwyddwyd i’w ddiogelu.

Bu’r Comisiwn yn bobl ddrwg eto yn 1989 pan gyhoeddwyd bwriad ganddynt i derfynu tenantiaeth y teulu oedd wedi ffarmio yno ers bron ddeugain mlynedd er mwyn  gwerthu Fedw Deg, a chwe eiddo arall yn yr ardal, ar y farchnad agored. Unwaith eto bu ymgyrch genedlaethol a sbardunwyd Myrddin ap Dafydd i ysgrifennu cân brotest a ganwyd gan Plethyn, Cwm y Coed. Dyma’r pennill olaf:

Ond Mai ddaeth i Nant Conwy
I lasu’r cyll a’r ynn;
Cynefin y coed caled
Fydd byw er gwaethaf hyn;
Daeth eto liwiau’r gwanwyn
Lle bu y gaeaf hir,
Bydd gwlad yn drech nac arglwydd
Tra derwen yn y tir.

Wedi brwydr hir, llwyddodd y teulu i brynu’r lle a braf dweud mai ŵyr i’r tenant a symudodd yno ddechrau’r 1950au sy’n dal i ffarmio yno.

Mae hanes Fedw Deg yn ymestyn nol ymhell. Yn hen eglwys Mihangel Sant ym Metws-y-coed mae cerf-ddelw i Gruffydd ap Dafydd Goch o’r Fedw Deg, a fu farw tua 1380. Roedd Dafydd Goch yn fab (anghyfreithlon ond cydnabyddedig) i’r Tywysog Dafydd, brawd Llywelyn ein Llyw Olaf ac felly roedd Llywelyn Fawr yn hen-hen-daid i Ruffydd. Roeddynt yn deulu bwysig yn yr ardal am genedlaethau a bu dau o wyrion Gruffydd, Hywel Coetmor a Rhys Gethin, yn ymladd dros Glyndŵr.

Yr olaf o’r llinach i berchen Fedw Deg oedd Ffowc Gethin, a fu farw’n ddi-etifedd tua diwedd yr 16eg ganrif, wedi i ddau fab iddo gael eu lladd yn rhyfela yn erbyn  Sbaen. Yn ôl traddodiad, roedd ganddo ferch hefyd, Barbara Ffowc Gethin, a oedd yn barddoni. Hyd y gwn i, dim ond y tri phennill canlynol o’i gwaith sydd wedi eu cofnodi:

Telyn wen yn llawn o dannau                                                     
Wnaed yng nghoed y Glyn yn rhywle,                                     ,
Ac mae’n siŵr fod honno’n hwylus                                          
O waith dwylo Dafydd Morris.                                                   
Ei pheroriaeth sydd mor hudol
Nes distewi’r adar swynol,
Ac mae sŵn ei thannau mwynion
Yn ymglymu am fy nghalon.
Dafydd Morus a’i fwyn delyn
Gwyn fy myd pe cawn dy ganlyn
Ac yn y nos bod yn  dy freichiau
A dawnsio’r dydd lle cenit dithau.

Roedd wedi syrthio mewn cariad â’r telynor, Dafydd Morris o Flaen-y-cwm, Cwm Penmachno, ond gwaharddwyd hi gan rhag ei weld gan ei theulu. Byddai’n chwifio cadach gwyn o ffenest ei llofft a, phan welai Dafydd hwnnw, byddai’n dod i gwr y goedwig i ganu’r delyn iddi. Danfonwyd Barbara at berthnasau yn Llangelynnin ger Conwy lle bu farw o dor-calon.

Perchennog nesaf y stad oedd Dafydd Prys o Pennant, Ysbyty Ifan, un o deulu Plas Iolyn. Ef, mae’n debyg, gododd dŷ newydd iddo’i hun tua 1588. Yr olaf o’r teulu yma oedd David Price-Downes, a etifeddodd y stad yn 1821. Penodwyd ef yn Ynad Heddwch yn Sir Ddinbych ac Uchel Siryf Sir Gaernarfon ond roedd yn byw yn ofer ac ymhell uwchlaw ei fodd. Cododd forgeisi ar ei eiddo, trowyd tenantiaid o’u ffermydd a bu’n rhaid iddo werthu’r naill ffarm ar ôl y llall. Yn y diwedd symudodd i ffarm ganolig ei maint, Ysgwifrith, ym Mhenmachno cyn gorfod gwerthu honno a’r unig ffarm arall oedd ar ôl, Tyddyn Gethin, yn 1852. Mae stori iddo drefnu cinio ar gyfer ei gredidwyr yn y King’s Head yn Llanrwst ond, wedi gwledda, iddo ddianc drwy ffenest gefn (heb dalu am y bwyd wrth gwrs!) a mynd i Lundain. Daeth hanes yn ôl i’r ardal ei fod wedi ymfudo i Awstralia ac wedi marw yno’n gardotyn.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Mair ag Eryl ar FLICKR