Y Rhinogydd 17 Hydref
Gyda nifer o gyfyngiadau newydd yn ymddangos bron yn ddyddiol, cyfarfu 6 yng Nghwm Greigddu ar fore braf o Hydref. Nifer yn datgan nad oeddynt wedi bod yna o'r blaen.
Fyny drwy'r coed, heibio'r Greigddu Isa', Pistyll Gwyn, Bwlch Tyddiad a'r Llyn Du. Panad sydyn ar lan y llyn cyn dringo'n serth i gopa Rhinog Fawr gyda golygfeydd gwych i bob cyfeiriad. Cinio yng nghorlan ucha' Grugle, yna lawr i Ddrws Ardudwy gan syllu ar y darn caleta' o'r dydd oedd o'n blaena', sef y ddringfa galed i gopa gogleddol Rhinog Fach. Mwynhau golygfeydd eang unwaith eto ar hyd y grib i'r prif gopa, cyn syllu lawr i ddyfnderoedd Llyn Hywel a'r Llethr. Dilyn y wal i lawr trwy Llechi Rhinog i'r goedwig ac yn ol yn hamddenol i'r ceir. Diwrnod da, diolch i bawb.
Y criw oedd: Morfudd, Manon, Iolo (C'fon). Dafydd (Legal) Mark (Crwbin) a finna, Myfyr.
Adroddiad gan Myfyr.
Lluniau gan Myfyr a Morfudd ar FLICKR