HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Rhandirmwyn 17 Hydref


Er bod cyfyngiadau lleol y Covid-19 wedi rhwystro aelodau o ran helaeth o Dde Cymru rhag ymuno â’r daith, roedd siroedd Ceredigion, Penfro, Powys a Shir Gâr wedi eu cynrychioli ymhlith y pump ohonom wnaeth gwrdd erbyn 9:30 yn y llecyn parcio tu hwnt i bentref Rhandirmwyn, ger y bont sy’n arwain i gyfeiriad Troedyrhiw dros afon Tywi. Y bwriad oedd cerdded addasiad o daith sydd yn y gyfrol gyhoeddwyd 30 mlynedd yn ôl, “Troedio Cymru” gan Howard Lloyd, un o hoelion wyth y Clwb yr adeg honno ac un a oedd yn hoff iawn o’r ardal hon.

Gyda barcud coch uwch ein pennau, ein trywydd cyntaf oedd y llwybr hir sy’n codi’n raddol o Fwlchnewydd hyd at gwar Ystrad-ffin, gan edrych lawr cyn hir ar y blwch o adeilad ar lan y Tywi sy’n cartrefu’r tyrbin ar gyfer cynllun trydan-dwr diweddaraf yr ardal (felly, testun un o sgyrsiau cyntaf y dydd oedd pam nad yw cynlluniau o’r fath yn fuddsoddiadau Cymreig yn hytrach nag er elw i gwmniau estron). Wedi croesi gweddillion caregog y cwar a dringo’r llechwedd gan anelu at y tri polyn tenau oedd yn weddill o hen ffens, roedd angen ceisio llwybr trwy wellt y gweunydd heb wlychu traed er mwyn cyrraedd y gât yn y ffens bresennol.

O’r fan honno, gyda rhan o Lyn Brianne yn y golwg tua’r gogledd, roedd y llwybr a adawyd gan feic quad y bugail o gymorth i ni wrth geisio llwybr weddol sych tua’r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Cerrig Cedny (ffurf luosog ar “cadno”, mae’n debyg), man uchaf y daith er bod y pwynt triongli (487m) ar gyrion y goedwig ddau canllath da i’r de ar draws rhagor o’r gweundir garw, ac felly ddim yn apelio. Yn hytrach, mwynhau’r olygfa tua’r gogledd a’r gorllewin (tuag at Mynydd Mallaen) wrth gymryd hoe cyntaf y dydd ar yr unig ddarn o graig yn y rhan hwn o’r mynydd. Er bod dyffryn Nant-y-bai oddi tanom i’r de-orllewin, doedd dim modd gweld safle’r hen waith mwyn islaw fu’n cyflogi cannoedd pan yn ei anterth fel cloddfa blwm. Soniwyd am yr hanesyn ynghylch y Cymry’n anfon mwynwyr Cernyw o’r ardal pan aeth pethe’n anodd o ran cyflogaeth tua 1850: ond bod un ohonynt wedi cael aros gan ei fod newydd agor tafarn y Royal Oak ym mhentre Rhandirmwyn.

Unwaith eto roedd olion llwybr y beic quad yn hwyluso’r dasg wrth gyrchu trywydd weddol sych tuag at ymyl y goedwig ar Gefn Ystrad-ffin, yna croesi Nant-y-ffin ger cornel ffens y goedwig ac ymlaen ar gyfer egwyl ginio ar ddarn o graig o fewn cyrraedd i’r heol islaw, y byddem wedyn yn ei dilyn am gwta filltir o Fwlch-y-ffin i argae’r Brianne.

Yn union wedi croesi’r argae, cafwyd gafael ar y llwybr defaid sy’n arwain at ysgwydd serth Pen Rhiwbie. Wrth ddilyn ymyl y bryncyn hwn roeddem uwchben rhan hyfryd o afon Tywi, gydag eglwys Peulin sant ar yr ochr draw (ar safle lle cynhaliwyd un o ysgolion Griffith Jones) a “stafell” Twm Siôn Cati ymhellach ymlaen, yn y goedwig sy’n rhan o warchodfa adar Gwenffrwd Dinas. Wrth ddod lawr o tua 400m tuag at yr afon, roedd angen dewis y llwybr defaid fyddai’n dod â ni’n ddigon isel er mwyn cerdded islaw Craig Clungwyn a chyrraedd heol Troedyrhiw yn agos i’r bont bren dros afon Doethie: roedd degfed milltir y dydd ar yr heol nôl at y ceir. Er yn ddiolchgar am ddiwrnod sych, efallai bod yr heulwen ar bentre Rhandirmwyn wrth ymadael yn addewid ar gyfer y tro nesaf.

Diolch i Eileen, Eurig, Mairwen a Siân am eu cwmniaeth ac am y penderfyniadau democrataidd ar yr adegau pan oedd angen dewis sut i ymdopi â’r llecynnau gwlyb oedd o’n blaenau mewn mannau – a gobeithiwn weld Siân yn cadw at ei harfer newydd o gyrraedd man cychwyn y daith o flaen pawb arall! Diolch hefyd i Dafydd, Parc-y-bugail, Ystrad-ffin ac i Huw, Troedrhiw-rhuddwen am eu cyngor a’u cefnogaeth.

Adroddiad gan Gareth Pierce

Lluniau gan Gareth ar FLICKR