HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Mynyddoedd Duon o’r gogledd 18 Ionawr


Dyma naw ohonom yn ymgasglu ym maes parcio Talgarth ar fore cras oer o fannau amrywiol ar hyd a lled De Cymru gyda’r bwriad o esgyn i ben y mynyddoedd sy’n ffurfio cefnlen i’r drefan. Er rhyddhad mawr i mi lwyddwyd symud llond dau gar yn ddidrafferth ar hyd y lonydd cefn cul i Gomin Rhos Fach, sef man cychwyn y daith.

Gareth oedd yr un a osododd yr her amhosib ‘taith heb fwd’ ac o diar, methwyd cyflawni hyn o fewn ychydig fedrau oherwydd roedd y llwybr drol ar y cychwyn yn fwdlyd iawn. Diolch i Elin am weld ochr gorau’r sefyllfa  drwy ebychu “Wel, am fwd pert sydd yma!”.

Ymlaen â ni i fyny Rhiw Cwnstab tua Y Das ac ymhen bron i awran roeddem yn sefyll ar ben ucha’r hafn yn edmygu’r golygfeydd diguro tua’r gogledd. Yn ffodus, wrth i mi siarsio pawb i sefyll yn ‘deidi’ – chwedl Gerallt Pennant – er mwyn  tynnu llun ohonynt  dyma fynyddwr  ifanc yn ymddangos o’r de a chynnig tynnu llun ohonom i gyd. Cawsom ein synnu a’n gwobrwyo pan gychwynnodd siarad Cymraeg a darganfyddom mai crwtyn o Dalybont ar Wysg oedd e!

Ar ôl dipyn o sgwrsio dyma droi tua’r dwyrain a brasgamu tua chopa ‘dienw’ sydd yn cael ei nodi â phwynt trig. Dyma gyfle am lun arall a mwy o edmygu golygfa cyn troi yn ôl a phasio lle roeddem wedi sefyll hanner awr ynghynt. Aethom yn ein blaenau i’r gorllewin tua Pen Manllwyn a’r prif nod, sef Waun Fach, mynydd ucha’r Mynyddoedd Duon. Dyma gerdded yn braf ar hyd y llwyfandir heb berygl o fwd yn amharu ar y mwynhad gan fod y tir wedi rhewi dan draed.

Braidd yn wyntog ac oer oedd hi ar ben Waun Fach ac felly lawr â ni am ychydig cyn ffeindio llecyn perffaith allan o’r gwynt , diolch i Pens i fwyta cinio.

Ein bryn olaf am y diwrnod oedd Pen Trumau sy’n sefyll wrth blaen dyffryn Grwyne Fechan. Cafodd pawb hanes neu chwedl heol Macnamara sydd, yn ôl sôn, yn rhedeg dros y bwlch yn y fan hyn. Dyma troi ein trwynau n’ôl am y gogledd ac ymlwybro ar draws y llechweddau ac i lawr yn serth i bant lle roedd disgwyl croesi Afon Rhiangoll. Yn anffodus doedd y rhyd ddim mor rhwydd i groesi o gymharu â’r tro gwnes i’r recce a felly cafwyd ambell i socsan wrth i ni groesi’r afon. Pwt oedd yr un a grynhodd y sefyllfa trwy ddweud bod y cyffro’n  ‘Much ado about nothing’!

Gyda’r haul yn dal i dywynnu dyma ddringo’r rhiw ola’ i fyny at Bwlch Bach ar Grib ac wrth basio mwynhau’r golygfeydd o Gastell Dinas sy’n gwarchod pen ogleddol Dyffryn Rhiangoll. Mwd – pert - oedd nodwedd y cymal ola’r daith yn ôl at y ceir.

Diolch i Elin, Helen, Digby, David, Dewi, Pens, Pwt, a Gareth am eu cwmni.

Adroddiad gan Sian Shakespear.

Lluniau gan Sian a Dewi ar FLICKR