Foel Goch 18 Tachwedd

  
Pentref bychan ddiarffordd ydi Llangwm. Y  trigolion yn enwog yn bennaf am eu rhan yn rhyfel y degwm ac yn fwy diweddar am  eu côr cerdd dant.
      
Hefo rhagolygon y tywydd yn gaddo gwynt cryf a  glaw trwm doedd dim amser i din droi felly ar ôl ymgynull wrth yr eglwys dyma  gychwyn reit gyflym ar y ffordd heibio Capel Croes ac i fyny Cwm LLan cyn  dringo’r ffridd serth at giât y mynydd ac ymlaen at y bwlch rhwng Foel Goch a’r  Oerddu.
Yma mae ffin y plwy ac mae wedi ei ddynodi hefo  cyfres o feini Llanfor wedi ei naddu yn gywrain ar un ochr a Llangwm ar y  llall.
Paned sydyn cyn dringo i’r copa. Ar ddiwrnod  braf mae golygfeydd da o Arenig, y ddwy Aran a’r Berwyn i weld o’r copa, ond  heddiw hefo’r glaw yn llorweddol a’r gwynt yn hyrddio roedd yn anodd gweld  blaenau ein trwynau! Felly ymlaen i’r Garnedd Fawr. Y cymylau yn ychydig godi  ac yr oedd yn bosib gweld y ffordd i lawr i Fwlch Greigwen. Cinio bach wrth  Rhyd yr Ewig cyn dychwelyd i Langwm drwy Fuarth Aeddren ac ar hyd y lôn gefn.
Diolch i bawb a fentrodd allan yn yn y ddrycin. 
I ddweud y gwir roedd wedi glawio gymaint fel ar  ôl y daith aeth Buddug yn syth i Fetws y Coed i brynu trwsus glaw newydd!
Adroddiad gan Arwel
      
      Lluniau gan Aneurin ar FLICKR
      
    
