HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Llanberis 19 Rhagfyr


Wedi cyrraedd Stryd Fawr Llanberis ar fore gwyntog ac ar ôl diwrnodiau o law trwm y bwriad oedd, fel yr eglurais wrth yr 11 aelod oedd wedi ymgynnull,  gwneud taith rhif 16 Copaon Cymru sy’n cynnwys ymweld â chopaon Moel Eilio, Foel Gron a Goch a Moel  Cynghorion. I ffwrdd a ni felly i fyny’r ffordd serth o’r pentref i gyfeiriad Bwlch y Groes. Wrth i ni ddringo dechreuodd fwrw ac er bod gennym rywfaint o gysgod roeddem yn teimlo’r gwynt yn codi. Ar y ffordd soniodd Eirwen am daith yn yr ardal roedd wedi arwain y Clwb arni yn y gorffennol a fyddai’n gysgodol ei natur o’i chymharu â’r un roeddem yn bwriadu ei gwneud.

Wedi cyrraedd y man lle byddai’n rhaid gadael y ffordd drol a dechrau dringo’r llwybr am gopa Moel Eilio cawsom seibiant i gael ein gwynt atom yn y cysgod ar ôl dringo yr holl ffordd o’r pentref. Gyda'r gwynt yn hyrddio uwch ein pennau roedd yn amlwg y byddem yn fuan iawn mewn man agored heb unrhyw gysgod ac mai felly y byddai wedyn am ran helaeth o’r diwrnod. Fe ystyriwyd os y dylem newid ein cynlluniau a gwneud taith Eirwen yn y gobaith y byddem yn osgoi’r gwaethaf o’r gwyntoedd a’r glaw a dyna  benderfynwyd. Roedd bod yng nghanol cawod genllysg reit hegar ar y pryd yn gwneud y penderfyniad dipyn haws.

Troi yn ôl felly a chychwyn i lawr ac mewn ychydig ymuno â’r llwybr sy’n cylchu’r moelydd. Maes o law fe ymunwyd â llwybr Llanberis ger Hebron. Lawr y llwybr hwnnw ac wedyn ar y ffordd, cyn troi am y llwybr drwy Goedwig Fictoria ac i lawr i’r pentref. Fe lwyddwyd i golli un neu ddau fethodd y tro ger Caffi Steffan a cherdded lawr y ffordd!!  Fe ail gasglodd pawb ger Castell Dolbadarn a chawsom ginio yng nghesail y Castell yng nghysgod y gwynt. Roeddem yn gallu gweld y cymylau duon uwchben y copaon yn y cefndir a doedd neb yn dyfaru newid y cynlluniau.

Ar ôl cinio croesi’r bont droed dros yr afon cyn  dringo’r llwybr igam ogam i fyny drwy’r chwarel. Troi wedyn am gyffiniau Dinorwig a dilyn llwybr am Fachwen. Bachu ar y cyfle ar y ffordd i werthfawrogi’r holl waith plannu coed mae Alun ac Eirwen wedi ei wneud ar eu tir. Disgyn i lawr drwy Goedwig Dinorwig ac ymuno â’r llwybr oedd yn arwain yn ôl i Barc Padarn a’r pentref. Gan mai hon oedd un o deithiau olaf y clwb cyn y Nadolig manteisiwyd ar y cyfle i ddymuno cyfarchion yr Wyl cyn ei throi am adref. 

Diwrnod digon rhyfedd. Fe lwyddwyd i wneud taith bedol o amgylch Llanberis (gan osgoi y gwaethaf o’r gwynt a’r glaw) ond nid  yr un a hysbysebwyd. Diolch i Aneurin, Arwel, Dafydd, Dilys, Dylan, Gwyn Llanrwst, Elen, John Arthur, Keith a Wil am fod mor amyneddgar a pharod i dderbyn y newidiadau ac i Eirwen am ein harwain. Wedi’r newyddion a ddaeth yn ddiweddarach yn y dydd y byddai Cymru mewn clo arall am gyfnod amhenodol, roeddwn mor falch ein bod wedi cael cyfle i gyd gerdded a chymdeithasu a siawns na fydd cyfle arall i wneud y daith wreiddiol  rhywbryd yn y dyfodol.

Adroddiad gan Iolo Roberts

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR