HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tryfan 19 Rhagfyr


Mi gymrodd hi ddwy awr a hanner i gyrraedd copa Tryfan, diolch yn bennaf i’r amgylchiadau anodd a oedd yn gwneud pobman yn llithrig dros ben, ond yn rhannol hefyd oherwydd penderfyniad yr arweinydd i ddilyn trywydd oedd yn ddi-lwybr mewn mannau er mwyn cynnig ffordd wahanol i’r arfer o gyrraedd y copa. Ond mi gyrhaeddwyd yn saff ac, oherwydd nad oedd neb arall yno, penderfynwyd swatio y tu ôl i Siôn a Siân (neu Adda ac Efa) i lyncu cinio sydyn; fel arfer mae’n le mor brysur nes bod rhywun yn tueddu i adael yn reit sydyn. Ond mi gyrhaeddodd criw o ddynion ifanc o Dde Lloegr, ac wrth iddynt holi ynghylch y ffordd i lawr, deallwyd mai’r cwbl oedd ganddynt i’w harwain oedd llun o Tryfan ar ddarn o bapur –  a hwnnw’n wlyb wrth gwrs! Be nesa?

Erbyn hyn, roedd gwynt cryf yn chwipio cawodydd o genllysg wrth inni ddisgyn tua Bwlch Tryfan, a gwnaed penderfyniad (unfrydol a phoblogaidd, rwy’n meddwl!) i beidio â mynd ymlaen am Glyder Fach. Wedi cyrraedd y gamfa gyntaf, drosti â ni gan anelu am y llwybr sgri serth i Gwm Tryfan a lawr at Gwern Gof Uchaf ac yn ôl at y ceir. Rhyw dair milltir oedd y pellter y daith o’i fesur ar y map ond taith a gymrodd dros bum awr ond pawb wedi mwynhau’r profiad a gwerthfawrogi’r cyfle i fod allan yn yr awyr iach ac ar fynydd mor arbennig. Tybed pryd gawn gwmni ein gilydd eto?

Y criw oedd Iolyn, Dwynwen a Gerallt, Stephen, Chris, Sonia, Trystan, Rhys, Gareth Wyn ac Eryl.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Gerallt ag Eryl ar FLICKR