HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Anafon – Llwytmor a Foel Fras 20 Medi


Cyrhaeddodd naw ohonom faes parcio Coedydd Aber ben bore Sul i sicrhau ein llefydd parcio cyn i’r torfeydd gyrraedd yn ddiweddarach yn y dydd. Ni allem fod wedi dymuno gwell diwrnod o ran tywydd gan fod yr awyr yn las a’r haul yn disgleirio’n gynnes.

Cychwynwyd yn brydlon a buan y gadawsom y prif lwybr at Rhaeadr Fawr i gerdded trwy weddillion coedwig ac yna ar draws llethr sgri Marian Rhaeadr Fawr lle’r oedd cysgod rhag yr haul yn gwneud y dringo’n ddymunol iawn. Y tu hwnt i Rhaeadr Fawr dilynasom Afon Goch. Mae’n anodd credu fod dyffryn mor hudolus mor agos at atyniad pot mêl Rhaeadr Fawr ac eto prin iawn yw’r bobl sy’n mentro yno.  Yma y gwelsom y criw cyntaf o ferlod y Carneddau a bu sawl grŵp arall ohonynt yn gwmni i ni ar y daith yn ystod y dydd.

O lannau Afon Goch y dechreuodd y gwaith caled wrth i ni ddringo llethrau serth, glaswelltog, di-lwybr Llwytmor. Roedd hi’n ddringfa chwyslyd a blinedig ond llwyddodd pawb i gyrraedd y copa ac yno cafwyd saib am ginio haeddiannol. Gan fod y tywydd mor glir roedd golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri a chyn belled â’r Eifl i’w gweld.

Gyda’r gwaith dringo caled drosodd roedd gweddill y cerdded yn ystod y pnawn yn fwy hamddenol. Roedd gwynt eithaf cryf ar y copaon ond heb fod yn oer. Cerddasom i gopa Foel Fras ac yna Drum cyn anelu am y man cychwyn ar hyd ochr ddwyreiniol Cwm Anafon a dringo pedwar o fryniau llai sef Pen Bryn-du, Yr Orsedd, Foel Ganol a Foel Dduarth. Er yn dipyn is na’r mynyddoedd a ddringwyd yn gynharach yn y dydd, o’u copaon roedd golygfeydd arbennig iw gweld o’r arfordir i’r gogledd ac o Fôn.

Cyrhaeddwyd y maes parcio tua phump lle’r oedd yn amlwg o weddill y ceir yno fod cryn brysurdeb wedi bod yn ystod y dydd fel sydd yn digwydd yng Nghoedydd Aber bob dydd Sul braf bellach.

Diolch i Aaron, Llinos, Elen, Ann, Richard, Steve a Robat am eich cwmni difyr yn ystod y dydd ac i Ifan am gyd-arwain y daith gyda mi.

Adroddiad gan Gareth Huws

Lluniau gan Gareth ar FLICKR