Gogledd Ardudwy 21 Hydref
Er nad oedd y rhagolygon yn addawol, daeth deg ohonom draw i gaffi Llyn Traws ar fore Mercher, 21 Hydref – Gwyn a Linda, Anet, Ellis, Iolo ap Gwynn, Arwyn, Elen H, Nia Wyn (Seion), a Rhiannon HJ.
Wedi mynd â’r ceir cyn belled â’r main dam, a cherdded ar draws yr argae uchel, dilynwyd pynfarch Llyn Traws (leat) i gyfeiriad Nant Pasgan Mawr, gan sylwi ar sawl nant oedd wedi ei dargyfeirio i gyflenwi dŵr i Lyn Traws. Yn anffodus, wrth agosáu at Nant Pasgan, cafwyd cawod drom, a phenderfynwyd cael tamaid o fwyd wrth y tŷ er mwyn chwilio am rhywfaint o gysgod.
Dilyn y ffordd fach welltog wedyn i Nant Pasgan Bach, cyn dilyn y ffordd darmac i gyfeiriad Caerwych, ond troi oddi ar y ffordd yma i ddilyn y llwybr mango (manganese) i lawr Ceunant Caerwych cyn belled ag Aberdeunant, lle cawsom hanes y tŷ arbennig yma gan Mandy a Paul, y perchnogion, yn ogystal â stori Dorti’r Wrach gan Mandy.
Ymlaen wedyn ar hyd y ffordd darmac heibio Penbryn Pwll Du ac i fferm Llenyrch, sydd bellach ym meddiant Coed Cadw. Wedi ail ginio wrth Llyn Llenyrch, i lawr am Geunant Geifr a dilyn yr afon am Geunant Llenyrch, cyn ei chroesi tua’r dwyrain a dilyn y llwybr yn ôl trwy’r gors at y main dam unwaith eto.
Llwyddodd ambell un ohonom i gyrraedd caffi Llyn Traws mewn pryd i gael paned a sgwrs fach olaf y dydd cyn ymadael am adra.
Adroddiad gan Haf Meredydd
Lluniau gan Anet, Gwyn a Iolo ar FLICKR
Nodiadau am Nant Pasgan Mawr
Hanes
Mae craidd y tŷ yn cynnwys tŷ nenfforch a charreg lloriog o 3 bae. Yn ôl cyfatebiaeth â thai eraill o ffurf debyg yn y rhanbarth, mae'n debyg ei fod yn dyddio o ganol yr 16eg ganrif. Yn strwythurol, roedd yn cyfuno nenffyrch â waliau cerrig o'r cychwyn cyntaf, ac mae'n debyg ei fod yn lloriog o'r dechrau, er bod Richard Suggett wedi awgrymu efallai bod bae'r neuadd wedi bod yn agored ar un pryd, a bod lle tân y neuadd gyda'i risiau wedi ei ail-greu. Yn ei ffurf bresennol, mae'n cynrychioli tŷ nodweddiadol is-ganoloesol lloriog Eryri, gyda simneiau ar y ddau ben a chynllun 2 uned. Mae ganddo brif le tân sy'n gwasanaethu'r neuadd (gyda grisiau wrth ochr y corn simdde), ac ail simnai ar y pen gwasanaethu, o bosib gyda lle tân bach ar y llawr gwaelod (bellach wedi'i gau), a lle tân mwy sylweddol yn gwasanaethu prif siambr ar lefel y llawr cyntaf.
Mae'r nenfwd yn cynnwys trawstiau-croes stop-siamffrog sylweddol, a distiau trwm, sy'n cael eu siamffro yn y 2 fae neuadd, ac yn fwy plaen yn y bae pen gwasanaeth. Mae'r trawst rhwng y bae hwn a'r cyn-dramwyfa croes yn dangos mortais pared, gyda thystiolaeth bod tri drws i mewn i'r pen gwasanaeth. Ymestynnwyd y tŷ ym mhob pen talcen: y tu hwnt i simnai y neuadd, roedd yr estyniad lloriog yn cynnwys siambr wedi'i chynhesu ar y llawr cyntaf, ac ystafell ar y llawr gwaelod heb iddi fynediad uniongyrchol o'r tŷ – stabl neu feudy yn ôl pob tebyg. Efallai iddi gael ei hychwanegu ychydig ar ôl i'r tŷ gael ei adeiladu. Yn y talcen ar y pen isaf, mae'r estyniad yn amlwg yn ategol i'r tŷ a gall fod yn sylweddol hwyrach.
Y tu allan
Adeilad hir ac isel, gyda mesuriadau tŷ neuadd, gydag estyniadau mewn-lein i bob talcen. Waliau cerrig rwbel bras batrymog ar sylfeini clogfeini, gyda tho llechi. Mae simneiau cain yn nodi’r pennau talcen gwreiddiol, gyda simnai arall tebyg iawn ar ben talcen y gogledd ddwyrain: mae gan y tri gerrig diferu ac olion capiau gor-hwylio. Y drws wedi'i osod i'r chwith o'r canol, gyda bwa pen-voussoir cain. Ffenestri i'r naill ochr (ffenestri codi 2 gwarel mewn agoriadau cynharach); 3 dormer cath-lithrog (a ailadeiladwyd tua diwedd y G20) heb eu halinio'n llwyr uchod. 3 ffenestr fach yn y cefn, wedi'u halinio â'r fynedfa yn y canol, ac yn ôl pob tebyg yn disodli drws croes-ffordd cynharach. Mae gan yr estyniad yn erbyn y talcen i’r gogledd ddwyrain ffenestr dormer sengl, a drws ym mhen y talcen. Drws llofft yn y cefn, a gyrhaeddir drwy ddringo grisiau allanol wedi'u hailadeiladu. Mae gan yr estyniad de orllewinol ddrws yn y drychiad blaen, a drws pitsio llydan yn y cefn uchaf. Mae’r estyniad yn erbyn y cefn hefyd yn ychwanegiad diweddarach, ac mae'n debyg ei fod yn darparu cysgod i wartheg. Mae'r tŷ yn cadw o fewn ei gyd-destun ymhlith caeau bach gydag olion sawl beudy maes.
Tu mewn
Mae’r tŷ yn strwythurol gymalog gyda dau bâr o gyplau nenfforch torchog sydd wedi'u hymgorffori yn y waliau cerrig ac sy’n cael eu cynnal ar gerrig sy'n ymestyn allan rhywfaint. Mae gan y cyplau benelinoedd amlwg, ac mae’r un dros y neuadd yn eistedd yn uwch yn y wal na'r trawst rhwng y neuadd a'r pen gwasanaeth. Mae trawstiau croes sy'n cynnal y nenfwd yn gorwedd ochr yn ochr â'r trawstiau ond nid ydyn nhw wedi eu hymuno â nhw. Mae gan y to ddwy haen o dulathau, ac mae'r uchaf ohonynt yn gorwedd yn uniongyrchol ar lafnau’r nenfforch, ond mae'r tulathau isaf yn cael eu cynnal ar sbardunau byr uwchben y llafnau. Mae'r tŷ yn cynnal elfennau sylweddol o'i drefniant cynnar, er gwaethaf colli’r pared rhwng y neuadd a’r pen gwasanaethau.
Mae'r trefniant o forteisiau yn y trawst rhwng pen y gwasanaetha a thramwyfa y neuadd yn nodi bod pen y gwasanaeth wedi'i rannu'n dair uned fach ar un adeg. Efallai fod y rhain yn barlwr, bwtri a grisiau – mae distyn fframio ar gyfer grisiau wedi goroesi; mae tystiolaeth hefyd o le tân bach, sy'n awgrymu mai parlwr bach oedd un o'r ystafelloedd hyn. Mae’r neuadd a’r pen gwasanaethau yn cael eu gwahaniaethu yn ôl lefel y manylder yn y nenfwd: mae gan y neuadd (gan gynnwys bae’r dramwyfa) ddistiau siamffrog, tra bod distiau plaen hyd diwedd y pen gwasanaeth. Bellach nid oes nenfwd ym mae lle tân y neuadd, ond mae bylchau ar gyfer distiau i'w gweld yn glir mewn trawst croes canolog, ac ar ddwy ochr trawst arall wedi'i osod ychydig o flaen y simnai (gan roi pwys ar yr awgrym nad yw'r lle tân yno ers y cychwyn).
Grisiau ochr yn ochr â simnai y neuadd; mae gan lle tân y neuadd breswmer pren siamffrog; mae popty bara a grât wedi ei osod ynddo, sydd â bwa pen crwn trwy wal sgrin fwg, craen a phwll lludw. Lle tân sylweddol gyda breswmer tebyg i siambr llawr cyntaf dros ben y gwasanaethau. Mae bylchau yng ngholer y dist ar y pen hwn yn nodi lleoliad rhaniad sy'n amlinellu siambr ar y llawr cyntaf. Mae ffliw yng nghornel cefn yr ychwanegiad yn erbyn talcen y de orllewin – efallai unwaith yn gwasanaethu boeler golchi neu odyn sychu.
Rhesymau dros Restru
Wedi'i restru ar radd II* fel goroeswr pwysig o ffermdy cynnar ym Meirionnydd, enghraifft brin o'r defnydd o nenffyrch wedi'u cyfuno ag adeiladu cerrig – tystiolaeth bwysig ar gyfer y newid o bren i draddodiadau adeiladu gyda cherrig yn y rhanbarth hwn. O ran cynllun a gosodiad yn ogystal ag adeiladu, ymddengys bod y tŷ yn nodi'r trawsnewidiad o draddodiad neuadd agored ganoloesol i draddodiad tŷ lloriog, ac mae'n cynrychioli cyfnod cynnar yn ymddangosiad traddodiad adeiladu ôl-ganoloesol rhanbarthol cryf (tŷ Eryri).