Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych 21 Tachwedd

  
Ar  fore digon diflas o ran y glaw ar gwynt dyma saith o aelodau dewr criw y De am  fentro mireinio eu sgiliau mynydda mewn amodau digon heriol dan draed.
      
Gan  barcio wrth ochr yr A470 dyma ddechrau ein taith trwy ddringo fewn i Warchodfa  wedi ei leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn ardal a  elwir Fforest Fawr – ardal a gafodd yr enw nid yn gymaint am ei bod yn goedwig  ond i nodi’r ffaith iddi fod, yn y gorffennol pell, yn dir hela.
Wrth  i’r criw gerdded fewn i fasn Craig  cerrig Gleisiad a dilyn cwrs yr afon daethom at silff o dir gwastad lle ceir, ar  un adeg aneddiad o oes yr Haearn. Mae’r  amffitheatr atmosfferig yma yn hafan i gyfoeth o fywyd gwyllt. Nodwyd tua 80 o wahanol adar ymysg planhigion  arctig-alpaidd a nifer o blanhigion eraill. Gan  ddringo y llwybr gymharol serth dyma gyrraedd y tir agored yn nannedd y gwynt a  chyrraedd copa Fan Frynych.(629 m).
Dyma  droi tua’r Gorllewin gan ddilyn llwybr nes gostwng lawr i hen lôn rufeinig sef  Sarn Helen. Mae’r  lôn yma i’w gweld ar ei orau wrth  ymestyn o Heol Senni hyd at Ystradfellte. Wedi  crwydro ar hyd sarn Helen am tua milltir dyma gyrraedd hen bont blaen Cwm Du yn  nghysgod clogwyni Craig Cwm Du. Amser  i gael paned cyn teithio ymlaen ar hyd y lôn nes cyrraedd ardal Bryn Melyn.
Yn  hytrach na chario ymlaen nes cyrraedd y gronfa ddŵr, penderfynwyd troi i’r  dwyrain, o achos y tywydd, gan ddefnyddio map a chwmpawd i gyrraedd copa digon  di-nôd Fan Dringarth (617 m). Gan ddilyn llwybr digon llydan, ond mwdlyd, dyma  gerdded am thua dwy filltir dros Cefn perfedd gyda Craig Cwm du i’r chwith  ohonom. Cyn  hir, dyma gyrraedd ffens ac ucheldir Craig Cerrig Gleisiad unwaith eto.
Lawr  a ni gan ddilyn yr arwyddbyst drwy y warchodfa unwailth yn rhagor a chyrraedd y  ceir yn ddiogel. Braf  oedd cyrraedd wedi cerdded tua 11 milltir ac yn wlyb at ein crwyn ond wedi mwynhau  pob eiliad o’r daith serch y tywydd,
Diolch  am y cwmni difyr ac arweiniad a threfniadau Guto.
Adroddiad   gan Dewi.
      Lluniau gan Dewi ar FLICKR
      
    
