HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau 21 Tachwedd


Gyda rhagolygon y tywydd yn wael am y diwrnod,  da oedd gweld naw wedi troi allan, sef Eryl, Gareth Rynys, Raymond, Iolo, Dafydd L, Buddug, Manon, Nia a finnau.

Cychwynom o’r maes parcio a dilyn yr A5 i gyfeiriad Ogwen, nes cyrraedd y llwybr sydd yn arwain at Lyn Cowlyd. Dringom yn raddol i ddechrau nes cyrraedd rhannau serth rhyw hanner ffordd i fyny. Penderfynom gael panad sydyn yn y fan honno.

Ymlaen wedyn ac wedi cyrraedd  copa Pen Llithrig y Wrach roedd hi’n stormus iawn a doedd dim modd aros, felly disgynom yn sydyn lawr i Fwlch y Tri Marchog. Cafwyd ychydig o seibiant yn y fan honno a braf oedd cael cysgodi o’r gwynt a’r glaw.

Cychwyn wedyn oddi yno gan ddringo yn weddol raddol i gyfeiriad Pen yr Helgi Ddu. Ar y copa penderfynwyd cael cinio sydyn mewn man cysgodol gan edrych ar olygfa Cwm Eigiau sef ein man cychwyn gwreiddiol. Oherwydd yr amodau, penderfynwyd osgoi Carnedd Llywelyn ac anelu lawr y fraich a throi lawr yn serth iawn i’r dwyrain nes cyrraedd y bont i groesi y sianel ddŵr. Dilynom y llwybr gwastad at ben llyn Cowlyd ac ymuno â’r llwybr a ddilynom bore cyntaf.

Er gwaethau’r tywydd dwi’n tybio bod pawb wedi mwyhau yr her, diolch i bawb am eu cwmni hwyliog.

Adroddiad gan Gareth Wyn.

Lluniau gan Iolo Roberts ar FLICKR