HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ro-wen i Gonwy 22 Ionawr


Braf oedd cael cwmni 3 o ddarpar aelodau, sef Nest, Ruth a Richard, ar y daith o Rowen i Gonwy dydd Mercher 22 Ionawr. Yn cyd-gerdded hefo nhw oedd Huw (Bethesda), Liz (Rowen), Alun, Glyn, Sioned a Rhiannon (Humphreys Jones) o Gaernarfon, Gwyn (Llanrwst), Rhys a Gareth o ochrau Bangor, Llyr, Winnie, Margaret a Nia o Ynys Môn, Gwyn (Chwilog), Anet, Ellis, Iona, Elizabeth, Mair, Anne (Penmachno) a’r arweinyddion, Aneurin a Dilys.

Wedi symud rhai ceir o Gonwy roedd y cerdded yn cychwyn yn Rowen gan fynd i fyny trwy’r pentref am sbel cyn troi ar hyd Llwybr y Pererinion. Buom yn dilyn y daith honno ar draws caeau (dros yr hyn sy’n gorfod bod yn gamfa dalaf Cymru!) a chodi’n eithaf serth trwy goedlan Parc Mawr at Hen Eglwys Llangelynnin. Yno cawsom gyfle am seibiant i gael ein gwynt atom a chael ychydig o hanes yr hen adeilad. Ar ôl gadael yr eglwys ‘roeddem yn ffarwelio hefo Taith y Pererinion ac yn anelu ar hyd hen lwybrau trol am gefnen Waen Gyrach. Cawsom lecyn delfrydol wrth lan Llyn y Wrach i gael cinio, a’r niwl yn chwyrlio’n hudolus o’n cwmpas. Ymlaen wedyn ar hyd Llwybr Gogledd Cymru i gyrraedd pen Bwlch Sychnant. ‘Roedd y rhagolygon tywydd wedi addo y byddai’r niwl yn codi at y p’nawn ond nid felly oedd hi a rhoesom y gorau i’r syniad o ddringo Allt Wen. Mentrodd wyth o’r criw i gopa Mynydd y Dref i ymweld â hen fryngaer Caer Seion tra’r aeth y gweddill ar hyd llwybr llai heriol wrth odre’r mynydd cyn i bawb gyfarfod yn ôl ar gyrion Conwy.

Ar ddiwrnod arall byddai’r golygfeydd o’r copaon wedi bod yn werth eu gweld i bob cyfeiriad – anogaeth hwyrach i rai ddod yn ôl i ail-gerdded y llwybr ar dywydd braf! Ond allai’r niwl ddim llethu hwyliau a chyfeillgarwch y 25 oedd ar y daith. Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Dilys.

Lluniau gan Aneurin ag Anet ar FLICKR